Neidio i'r prif gynnwy

Anogir trigolion Powys i gynllunio ymlaen llaw ac archebu presgripsiynau rheolaidd cyn y Nadolig

Fferyllydd yn egluro meddyginiaeth i ddyn hen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio o flaen llaw ac yn archebu eich presgripsiwn rheolaidd mewn digon o amser. Dyma’r neges gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys wrth i ni agosáu at y Nadolig.

Gyda llawer o fferyllfeydd ar gau am bedwar diwrnod dros y Nadolig, mae Prif Fferyllydd Jacqui Seaton yn awgrymu eich bod yn gwirio bod gennych ddigon o feddyginiaeth presgripsiwn ar gyfer cyfnod yr ŵyl:

"Mae'n bwysig bod pobl yn cofio y bydd yna benwythnos o bedwar diwrnod i bob pwrpas dros y Nadolig a phenwythnos o dri diwrnod dros y Flwyddyn Newydd.

“Os oes gennych bresgripsiynau rheolaidd, gwiriwch fod gennych ddigon o gyflenwad dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Gadewch saith diwrnod rhwng archebu a chasglu. Mae angen yr amser hwn ar eich practis i gymeradwyo eich presgripsiwn ac i'ch fferyllfa gael eich meddyginiaethau'n barod i'w casglu."

Mae cynllunio ymlaen llaw bob amser yn syniad clyfar, ac er y gallwn baratoi ar gyfer y tywydd oer a lleoliadau’n cau dros y cyfnod, mae llawer mwy o bethau y gall pobl eu gwneud i gadw eu hunain yn heini ac yn barod ar gyfer y gaeaf hwn.

Meddai Ms Seaton: "Mae hunan-ofal yn hanfodol, ac agwedd bwysig o hyn i unrhyw un sy'n cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn rheolaidd yw gwneud yn siŵr eich bod dim ond yn archebu'r hyn sydd ei angen arnoch chi ac i ddychwelyd yr holl feddyginiaethau heb ei defnyddio i’w gwaredu'n ddiogel."

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi lansio menter newydd o'r enw Prosiect Gwyrdd, sydd â'r nod o leihau effaith gwastraff meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar yr amgylchedd a chyllidebau'r bwrdd iechyd.

Ymhlith prif argymhellion Prosiect Gwyrdd am ddyfodol iach a llai gwastraffus y mae’r canlynol:

  • Dychwelwch feddyginiaeth, lle mae’r dyddiad wedi dod i ben a meddyginiaethau ar bresgripsiwn heb eu defnyddio i'ch meddyg teulu neu fferyllfa i'w gwaredu'n ddiogel. Mae meddyginiaeth o'r fath yn berygl i'ch iechyd a gall hefyd effeithio'n negyddol ar unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi'n ei gymryd.
  • Peidiwch byth â chadw gormod, na rhannu eich meddyginiaethau ar bresgripsiwn rheolaidd, oherwydd y gall achosi niwed os caiff eu cymryd gan unrhyw un heblaw'r person sydd wedi ei enwi ar y presgripsiwn. Gallai'r meddyginiaethau hyn hefyd ymateb i gyffuriau eraill, gan achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.
  • Peidiwch byth â chael gwared ar feddyginiaethau heb eu defnyddio trwy eu llosgi, eu rhoi yn eich sbwriel neu’r ailgylchu, na'u fflysio i lawr y toiled. Trwy losgi’r feddyginiaeth mae’n bosibl y gallant ryddhau mwg gwenwynig, halogi'r pridd a'r dŵr, ac effeithio ar fywyd planhigion ac anifeiliaid os ydych yn eu claddu yn y pridd neu wedi'u hydoddi mewn dŵr.

Mae Ms Seaton yn parhau trwy ddweud: "Mae nifer o fferyllfeydd ledled Cymru'n darparu Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin sy'n cynnig ymgynghoriadau gan y GIG a meddyginiaeth am ddim ar gyfer 27 o anhwylderau cyffredin na ellir eu rheoli drwy hunan ofal yn unig. Mae'r gwasanaeth yn cynnig dewis arall yn hytrach na defnyddio rhai gwasanaethau’r GIG neu’r angen i drefnu apwyntiad gyda'r meddyg teulu neu feddyg y tu allan i oriau. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin a chyngor defnyddiol arall ewch i biap.gig.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi/

“Gallwch hefyd wirio’ch symptomau ar-lein ar wefan GIG 111 Cymru – mae ar gael i bawb, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gyfleus. Dyma'ch man cyntaf os ydych chi'n teimlo’n anhwylus ond nad ydych chi'n siŵr beth sydd o’i le. Mae gan y wefan llawer o gyngor ar gyflyrau cyffredin.”

Wrth i'r GIG wynebu gaeaf prysur arall eto eleni, mae'r Bwrdd Iechyd yn awyddus i atgoffa pobl i wirio bod eu meddyginiaethau heb bresgripsiwn yn gyfredol a bod cabinet meddyginiaethau'r cartref yn barod i drin mân broblemau iechyd. Am fwy o gyngor ar hwn, ewch i www.111.wales.nhs.uk/livewell/MedicineCabinet/ neu am gyngor ar addasu eich bocs cymorth cyntaf i’r gaeaf, ewch i biap.gig.cymru/helpwch-ni-ich-helpu-chi/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch fferyllydd lleol neu ewch i https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/fferylliaeth-a-rheoli-meddyginiaethau/ i gael gafael ar fwy o wybodaeth a chyngor.

Os oes angen fferyllydd arnoch ar frys dros y Nadolig, bydd nifer o fferyllfeydd ar agor i'ch helpu. Dewch o hyd i oriau agor eich fferyllfa leol dros yr Ŵyl yma.

 

Rhyddhawyd: 16/12/2022

Rhannu:
Cyswllt: