Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ddatblygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (14 Rhagfyr 2022)

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:


Annwyl randdeiliad allweddol

Gweler Nodyn Briffio 3 ynghlwm, sy'n ddiweddariad ar y sefyllfa sy'n ymwneud â'r gwaith ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd y cynnig cychwynnol ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ar 8 Tachwedd a gofynnodd yr Aelodau am fwy o graffu cyn y gellid cymryd camau pellach. Rhoddwyd adroddiad diweddaru i EASC ar 6 Rhagfyr 2022. Cytunwyd ar bedwar maes ar gyfer craffu:
1. Darparu EMRTS i boblogaeth Cymru (cwmpas poblogaeth)
2. Cerbydau Ymateb Cyflym (RRV)(Sut orau i ddefnyddio'r cerbydau hyn)
3. Defnydd (defnyddio'r hyn sydd gennym mewn ffordd effeithiol)
4. Angen heb ei ddiwallu (mwy o gleifion i dderbyn y gwasanaeth gofal critigol)

Bydd ymgysylltu ffurfiol â'r cyhoedd yn cadarnhau sut mae’r GATMB, yn llywio datblygiad ffiniau neu derfynau i'w defnyddio ac opsiynau a fydd wedyn yn cael eu modelu. Bydd hyn yn sicrhau bod manteision neu anfanteision pob opsiwn yn cael eu nodi’n glir a’u pwyso a’u mesur fel rhan o broses agored, dryloyw a chadarn.

Mae Tîm PGAB yn gweithio gydag arbenigwyr mewn Byrddau Iechyd a Chynghorau Iechyd Cymuned i ddatblygu deunyddiau ymgysylltu a phan gytunir arnynt bydd y broses ymgysylltu ffurfiol yn dechrau. Ni fydd hyn yn digwydd cyn 9 Ionawr 2023.

Byddaf yn darparu diweddariadau pellach maes o law.

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r ymholiadau pwysig yr ydym wedi'u derbyn ar ein gwefan. Os oes gennych ymholiadau neu awgrymiadau pellach defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://pgab.gig.cymru/gwasanaethau-a-gomisiynir/emrts-cymru/cdg/

Diolch yn fawr a Nadolig llawen a diogel i chi.

Yr eiddoch yn gywir
Stephen Harrhy, Prif Gomisiyndd y Gwasanaethau Ambiwlans


Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys briff i randdeiliaid ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Ewch i'n tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr i holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.

Rhannu:
Cyswllt: