Neidio i'r prif gynnwy

Annog y cyhoedd i'n Helpu Ni i'ch Helpu wrth i'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal barhau

Mae’r gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr o dan bwysau eithriadol. Mae arweinwyr iechyd a gofal yn annog pobl i wneud eu rhan i helpu cefnogi gwasanaethau drwy ddewis y gwasanaeth gorau i'w hanghenion, os ydynt yn sâl neu wedi'u hanafu yn ystod y cyfnod prysur hwn.

Mae niferoedd Covid-19 cynyddol, galw mawr am wasanaethau a heriau parhaus gyda salwch yn y gweithlu i gyd yn cyfrannu at bwysau ar y system.  O ganlyniad, bydd angen i'r system iechyd a gofal gymryd camau ychwanegol i flaenoriaethu gofal brys a chynnal gwasanaethau diogel i gleifion.

Bydd cleifion sydd â'r lefel uchaf o angen yn cael eu blaenoriaethu, gallai hyn olygu bod rhai gwasanaethau sydd ddim yn rhai brys yn cael eu gohirio neu eu haildrefnu.  Parhewch i fynd i'ch apwyntiad yn ôl yr arfer oni bai bod rhywun yn cysylltu â chi i aildrefnu.

Mae trigolion Powys yn defnyddio eu gwasanaethau ysbyty acíwt o fyrddau iechyd cyfagos yng Nghymru ac Ymddiriedolaethau GIG cyfagos yn Lloegr. Mae pob ysbyty yn apelio ar gymunedau lleol i ond ddod i Unedau Damweiniau ac Achosion Brys am gyflyrau ac anafiadau sy'n peryglu bywyd. Rydym yn eich annog i beidio â ffonio 999 na mynychu Unedau Damweiniau ac Achosion Brys oni bai ei fod yn argyfwng: Mae gwefan GIG 111 ar-lein yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ble i gael cymorth a chefnogaeth.

Mae fferyllwyr lleol yn lle gwych i ddechrau ar gyfer mân anhwylderau a chyngor hunan ofal. Trwy'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin gallwch gael cyngor a thriniaeth ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau cyffredin heb orfod gwneud apwyntiad meddyg teulu.

Mae Unedau Mân Anafiadau y Bwrdd Iechyd, wedi’u lleoli yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais, helpu i roi cyngor a thriniaeth ar gyfer mân anafiadau amrywiol fel ysigiadau a straen. Ffoniwch yn gyntaf os gallwch fel y gall ein nyrsys arbenigol roi cyngor i chi dros y ffôn, trefnu apwyntiad os oes angen, neu eich cyfeirio at wasanaeth arall os yw'n briodol. Mae apwyntiadau galw heibio ar gael i bobl na allant ddefnyddio'r ffôn i gysylltu â ni.

Mae mân wasanaethau anafiadau hefyd ar gael gan lawer o feddygfeydd ar draws y sir.  Gwiriwch gyda'ch meddygfa deulu leol am fanylion..

Os oes gennych berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy'n ddigon iach i fynd adref, ond sy'n aros i gael eu rhyddhau gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i fynd adref yn gynt os gallwch chi a'ch teulu eu cefnogi gartref.

Rydym yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod pobl yn cael eu cadw'n ddiogel, a hoffem sicrhau'r cyhoedd bod ein gwasanaethau yn parhau ar agor i unrhyw un sydd eu hangen er gwaethaf yr heriau a wynebir. Helpwch ni i'ch helpu chi a'r rhai rydych chi'n eu caru.

Dyma sut y gallwch helpu:

  • Ystyriwch a oes angen i chi fynychu adran frys neu ffonio 999.  Os nad yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd mae yna lefydd eraill i ofyn am help oddi wrthynt.
  • Defnyddiwch GIG 111 ar-lein os ydych angen cyngor neu driniaeth feddygol yn gyflym.
  • Mae Unedau Mân Anafiadau yma i helpu gydag anafiadau sydd angen sylw ar frys ond sydd ddim yn gritigol nac yn bygwth bywyd. Ffoniwch ein hunedau yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais yn y lle cyntaf. Fe allai eich meddygfa hefyd gynnig gwasanaeth mân anafiadau.
  • Codwch ffrindiau neu berthnasau o'r ysbyty cyn gynted ag y byddant yn ddigon iach i gael eu rhyddhau ac mae'r ysbyty wedi cysylltu â chi.  Mae hyn yn rhyddhau gwely i gleifion eraill sydd eu hangen.
  • Defnyddiwch eich fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau fel anhwylder stumog, cur pen, brech ar y croen ac i leddfu peswch ac annwyd. Dewch o hyd i fferyllfa yn eich ardal chi: Dod o hyd i Fferyllfa
  • Dylech gael eich brechu yn erbyn Covid-19 a'r ffliw os ydych yn gymwys. Bydd brechu yn amddiffyn nid yn unig eich hun ond eraill o'ch cwmpas.
  • Arhoswch gartref ac yn arbennig peidiwch ag ymweld ag ysbytai os oes gennych symptomau salwch heintus fel Covid-19, ffliw neu norofeirws (a elwir y byg chwydu'r gaeaf). Cofiwch - dwylo, wyneb, ymbellhau.
  • Am bryderon am haint Streptococol Grŵp A, gweler y canllawiau diweddaraf yma: https://biap.gig.cymru/strep-a
  • Mae’r llinell gymorth iechyd meddwl C.A.L.L i Gymru yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth. Ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch HELP i 81066.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y ddolen hon am sut i Helpu Ni i’ch Helpu Chi.

Chwiliwch am y newyddion diweddaraf o'ch Uned Damweiniau ac Achosion Brys agosaf yma: Ysbytai Cyfagos

 

 

Cyhoeddi ar 03/01/2023

 

Rhannu:
Cyswllt: