Neidio i'r prif gynnwy

Dewiswch Fferylliaeth

Fferyllydd benywaidd hapus yn rhoi meddyginiaethau i hen gwsmer gwrywaidd

Mae fferyllwyr yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwys iawn sy'n gallu rhoi cyngor a thriniaeth ar ystod o gyflyrau brys.

Mae dewis ymweld â'ch fferyllydd lleol i gael cyngor yn golygu:

  • Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad.
  • Gallwch chi fynd ar amser sy'n addas i chi.
  • Gallwch ofyn am gael ymgynghoriad â fferyllydd cymwys mewn man cyfrinachol yn y fferyllfa.

Mae llawer o fferyllfeydd ar agor ar benwythnosau, sy'n ddefnyddiol os byddwch chi'n dechrau teimlo'n sâl ar yr adegau hyn.

Os ydych chi'n rhedeg allan o'ch meddyginiaethau rhagnodedig, gall fferyllfeydd ddarparu cyflenwad brys i chi heb fod angen i chi weld eich meddyg teulu.

Efallai y bydd llawer o fferyllfeydd hefyd yn cynnig y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, sy'n caniatáu iddynt wneud diagnosis a thrin ystod o anhwylderau cyffredin, er enghraifft llau pen. Os ydych chi'n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn gall eich fferyllydd roi meddyginiaethau i chi yn rhad ac am ddim. Bydd eich fferyllfa yn rhoi gwybod i chi a fydd angen apwyntiad gyda meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ar eich cyflwr neu'r math o feddyginiaeth sydd ei angen arnoch.

Mae Dewis Doeth yn sicrhau eich bod chi'n cael y driniaeth sydd ei hangen arnoch chi yn yr amser byrraf posibl, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG.

Oriau Agor Fferyllfeydd dros Ŵyl y Banc

Efallai y bydd eich fferyllfa leol ar gau dros Ŵyl y Banc. Gwnewch yn siŵr o wirio pa fferyllfeydd sydd ar agor. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am oriau agor fferyllfeydd yma.


 

Yn byw ar y ffin â Lloegr?

Mae gwybodaeth am wasanaethau fferyllol yn Lloegr ar gael ar wefan GIG Lloegr .

Rhannu:
Cyswllt: