Neidio i'r prif gynnwy

Dewiswch Hunanofal

Dyn sâl yn gwirio ei dymheredd gartref yn yr ystafell fyw

Gall llawer o anghenion iechyd brys elwa o hunanofal.

Mae gan wefan 111 GIG Cymru Gwiriwr Symptomau defnyddiol i roi cyngor ar salwch ac anafiadau cyffredin, a Gwyddoniadur Iechyd gyda gwybodaeth a chyngor am gyflyrau cyffredin.

Paratowch ar gyfer problemau iechyd cyffredin drwy gadw eich cwpwrdd o feddyginiaethau yn llawn gartref.

Meddyginiaeth lleddfu poen 

Mae meddyginiaeth lleddfu poen fel paracetamol, ibuprofen ac asprin yn effeithlon iawn wrth leddfu mân boenau megis pen tost a phoen y misglwyf.
Mae'r meddyginiaethau hyn hefyd yn helpu gyda rhai mân anhwylderau, fel yr annwyd cyffredin, trwy leihau poen, a thymheredd uchel.

Mae paracetamol, ibuprofen ac aspirin hefyd yn helpu lleihau'r llid a achosir gan arthritis ac ysigiadau.

Cofiwch:

  • ni ddylai aspirin gael ei roi i blant dan 16 oed
  • rhaid cymryd ibuprofen yn ofalus os oes gennych rai cyflyrau, fel asthma – gwiriwch gyda'ch fferyllydd os oes amheuaeth
  • ni ddylai menywod beichiog gymryd ibuprofen - gwiriwch gyda'ch bydwraig neu fferyllydd am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymryd meddyginiaethau pan fyddwch chi'n feichiog
Cyffuriau gwrth-histaminau 

Mae gwrth-histaminau yn ddefnyddiol ar gyfer delio ag alergeddau a brathiadau gan bryfed. Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol os oes gennych glefyd y gwair.

Gall gwrth-histaminau ddod fel eli rydych chi'n rhoi ar y croen (gwrth-histamin amserol) neu dabledi rydych chi'n eu llyncu (gwrth-histamin trwy’r geg).

Mae eli gwrth-histamin yn lleddfu poen pigiadau a brathiadau pryfed, a brechau a chosi o ganlyniad i ddanadl poethion.

Mae tabledi gwrth-histamin yn helpu rheoli symptomau clefyd y gwair ac yn tawelu mân adweithiau alergaidd i fwyd. Gallant hefyd helpu tawelu unrhyw gosi yn ystod cyfnod o frech yr ieir.

Gall rhai cyffuriau gwrth-histamin achosi cysgadrwydd. Gofynnwch i fferyllydd am hyn gan fod rhai gwrth-histaminau nad ydynt yn achosi cysgadrwydd.

Halwynau ail-hydradu trwy'r geg 

Mae tymheredd uchel, dolur rhydd a bod yn sâl yn gwneud i chi golli dŵr a mwynau hanfodol, a gall arwain at ddadhydradu.

Mae halwynau ailhydradu trwy’r geg, sydd ar gael mewn fferyllfeydd, yn ffordd hawdd o helpu adfer cydbwysedd naturiol eich corff o hylif a mwynau, a helpu eich adferiad.

Ond nid ydynt yn ymladd achos eich salwch, fel feirws neu facteria.

Tabledi gwrth-ddolur rhydd 

Mae dolur rhydd yn cael ei achosi gan amrywiaeth o bethau, fel gwenwyn bwyd neu feirws stumog, a gall ddigwydd heb rybudd. Mae'n syniad da cadw meddyginiaeth gwrth-ddolur rhydd yn eich cartref.

Gall meddyginiaethau gwrth-ddolur rhydd reoli dolur rhydd yn gyflym, ond nid ydynt yn delio â'r achos sylfaenol.

Y feddyginiaeth gwrth-ddolur rhydd fwyaf cyffredin yw loperamide, sy’n cael ei gwerthu dan yr enwau Imodium, Arret a Diasorb, ymhlith eraill. Mae'n gweithio trwy arafu gweithred eich system dreulio.

Peidiwch â rhoi meddyginiaethau gwrth-ddolur rhydd i blant dan 12 oed oherwydd gallant gael sgîl-effeithiau annymunol. Siaradwch â meddyg teulu neu fferyllydd i gael cyngor am blentyn sydd â'r symptomau hyn.

Triniaeth diffyg traul 

Os oes gennych boen stumog neu losgi'r galon, bydd meddyginiaeth o'r enw antasid yn lleihau asidedd y stumog ac yn dod â rhyddhad.

Mae antasid yn dod fel tabledi y gellir eu cnoi, tabledi sy'n hydoddi mewn dŵr, neu ar ffurf hylif.

Eli haul 

Cadwch eli haul gyda ffactor sydd o leiaf yn 30. Gall hyd yn oed dod i gysylltiad â’r haul am gyfnod byr iawn achosi llosgiadau haul a chynyddu'ch risg o ganser y croen. Sicrhewch fod eich sbectol haul yn darparu amddiffyniad UVA.

Gallwch hefyd amddiffyn eich hun rhag yr haul trwy wisgo het a sbectol haul, a thrwy osgoi'r haul yn ystod rhan boethaf y dydd rhwng 11yb a 3yp.

Eich pecyn cymorth cyntaf 

Gall pecyn cymorth cyntaf sydd wedi'i baratoi'n dda helpu trin mân doriadau, ysigiadau a chleisiau, a lleihau'r risg y bydd briwiau'n datblygu haint.

Dylai gynnwys yr eitemau canlynol:

  • rhwymynnau – gall y rhain gefnogi rhai rhannau o’r corff sydd wedi'u hanafu, fel arddwrn wedi'i ysigo, a hefyd gall rhoi pwysau uniongyrchol ar doriadau mwy helpu cyn cael eu trin yn yr ysbyty.
  • plastrau – amrywiaeth o feintiau, rhai sy’n wrth-ddŵr os yn bosibl
  • thermomedr – mae thermomedrau digidol rydych chi'n eu rhoi yn eich ceg yn cynhyrchu darlleniadau cywir iawn; mae thermomedr dan fraich neu thermomedr clust yn ffyrdd da o ddarllen tymheredd babi neu blentyn ifanc
  • diheintydd– gellir defnyddio hwn i lanhau briwiau cyn iddynt gael eu rhwymo, a gall y rhan fwyaf drin ystod o gyflyrau, gan gynnwys pigiadau pryfed a phimplau; mae cadachau antiseptig di-alcohol yn ddefnyddiol i lanhau briwiau.
  • hydoddiant golchi llygad – bydd hyn yn helpu i olchi graean neu faw yn y llygaid
  • dresin di-haint - dylai anafiadau mwy gael eu gorchuddio â gwisgo gyda dresin di-haint i atal haint nes y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol roi triniaeth.
  • tâp meddygol – defnyddir hwn i lynu dresin ar y croen a gellir ei ddefnyddio hefyd i dapio bys wedi'i anafu i un heb anaf, gan greu sblint dros dro.
  • plicwyr – ar gyfer tynnu sblinteri; os yw sblinteri yn cael eu gadael i mewn, gallant achosi anghysur a haint.
 
Sut y gall fferyllydd eich helpu 

Cofiwch y gall fferyllydd hefyd helpu gyda llawer o gyflyrau iechyd, fel peswch, annwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair a phoen mislif.

Gallant roi cyngor neu, lle bo'n briodol, meddyginiaethau a all helpu datrys y broblem.

Yn lle trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu, gallwch weld fferyllydd unrhyw bryd – cerddwch i mewn

 

Rhannu:
Cyswllt: