Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Galw Heibio Brechlyn Atgyfnerthu'r Hydref COVID-19 wythnos yn dechrau 26 Rhagfyr

Mae brechlyn atgyfnerthu'r hydref COVID 19 ar gael i gleifion 50+ oed o Bowys ac ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yn ein canolfannau brechu COVID 19 yn y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys.

 

Hen Adeilad Llywodraeth Cymru, Llandrindod

Dydd Mercher 28 Rhagfyr: 10.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 3.30yp

Dydd Iau 29 Rhagfyr: 10.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 3.30yp

Dydd Gwener 30 Rhagfyr: 10.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 3.30yp

 

Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd

Dydd Mercher 28 Rhagfyr: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

Dydd Iau 29 Rhagfyr: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

Dydd Gwener 30 Rhagfyr: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

 

Gwybodaeth bellach:

  • Mae sesiynau galw heibio yn cael eu cynnig ochr yn ochr â’n clinigau apwyntiad ac maent yn dibynnu ar argaeledd. Diolch i chi am eich amynedd, a rhowch flaenoriaeth i bobl sydd ag apwyntiad sydd wedi'i drefnu.
  • Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer brechlyn atgyfnerthu'r hydref y mae sesiynau galw heibio ar gael yn seiliedig ar y cymhwysedd yn y tabl uchod. Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer dosau brechlyn eraill. Mae hyn oherwydd eu bod yn defnyddio math gwahanol o frechlyn.
  • Peidiwch â mynychu am frechlyn COVID-19 os ydych wedi cael COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu'r hydref yma.

 

 

Rhyddhawyd 21/12/22

Rhannu:
Cyswllt: