Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig deniadol newydd i weithwyr deintyddol i wella gofal deintyddol ym Mhowys

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan AaGIC.

Mae menter recriwtio newydd sy'n ceisio annog darpar ddeintyddion sy'n hyfforddi i fanteisio ar gyfleoedd ar draws y Gymru wledig wedi cael ei lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r rhan fwyaf o raddedigion deintyddol newydd yn dewis cwblhau eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen (DFT) blwyddyn mewn practis deintyddol. Fodd bynnag, mae gwell gan lawer o raddedigion deintyddol wneud eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn ardaloedd mwy trefol, gan adael rhai practisau mewn rhannau gwledig o Gymru heb adnoddau digonol a swyddi heb eu llenwi.

Yn 2021/22, cafodd 6% o'r swyddi gwag eu gadael heb eu llenwi. Golygai hyn fod yn rhaid rhoi pecynnau cymorth ar waith yn gyflym ar gyfer y practisau hyn, a gostyngwyd gallu’r boblogaeth leol yn yr ardal honno i gael gofal y GIG.

Fel ateb, mae AaGIC wedi lansio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen Cynnig Recriwtio Estynedig Cymru (DFT WERO), menter newydd i annog hyfforddeion i gwblhau eu hyfforddiant mewn practis gwledig a chynyddu gwasanaethau deintyddol i bobl yr ardal. Menter newydd yw hwn sy'n cynnig pecyn cymorth estynedig i hyfforddeion sy'n cyflawni Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn bractisau deintyddol gwledig yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru.

Mae'r pecyn newydd hwn yn cynnwys manteision fel:

  • £5,000 grant byw mewn ardaloedd gwledig
  • diwrnod astudio wythnosol
  • aelodaeth coleg brenhinol ffioedd arholiadau dan sylw AaGIC
  • cyllideb astudio £600 tuag at baratoi ar gyfer arholiadau
  • adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim
  • cymorth lles.

Dywedodd Kirstie Moons, Deon Ôl-raddedig Deintyddol AaGIC "Rwy'n falch iawn y gall AaGIC gynnig cymhellion lleol i dyfu a chadw ein gweithlu deintyddol mewn ardaloedd sy’n draddodiadol anodd recriwtio iddynt yng Nghymru. Mae'r fenter hon yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau bod gofal deintyddol y GIG yn parhau ar gyfer pobl yng nghefn gwlad Cymru. Ar yr un pryd mae’n diogelu'r lleoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen yn y practisau deintyddol hyn ar gyfer deintyddion sydd newydd gymhwyso i wneud cais iddynt mewn blynyddoedd i ddod."

Bydd y fenter yn agor i raddedigion newydd a graddedigion sydd ar y gweill o ysgol Ddeintyddol gydnabyddedig sydd â chysylltiad presennol â Chymru ym mis Chwefror 2023.

I gael gwybod rhagor, ewch i wefan AaGIC.

Rhannu:
Cyswllt: