Neidio i'r prif gynnwy

Mae galw sylweddol ar wasanaeth 111 GIG Cymru

🔴🔴🔴🔴

Mae galw sylweddol ar wasanaeth GIG 111 Cymru yn golygu y gallai rhai pobl aros amser hir i'w galwad gael ei ateb heddiw, sawl awr o bosibl.

Rydym yn gwybod pa mor rhwystredig yw hyn pan fyddwch chi neu'ch anwylyn yn sâl a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i'n trinwyr galwadau weithio cyn gynted â phosibl i ateb cymaint o alwadau â phosibl.

Ar gyfer cyngor a gwybodaeth iechyd cyflym, rhad ac am ddim a dibynadwy, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn ymweld â https://111.wales.nhs.uk/ lle gallwch wirio'ch symptomau i ddarganfod beth sy'n bod a'r camau nesaf i'w cymryd.

Yma hefyd fe welwch fanylion am oriau agor eich fferyllfa agosaf tra bod meddygfeydd yn parhau ar gau heddiw.

Helpwch ni i'ch helpu drwy ffonio 111 yn unig os yw'n fater brys a helpu i gadw llinellau'n glir i'r rhai sydd fwyaf angen ein help.


🔴🔴🔴🔴

Rhannu:
Cyswllt: