Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol Yn Aberhonddu

female patient lying with open wide mouth while male dentist operates on teeth

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch o gyhoeddi contract newydd ar gyfer darpariaeth gwasanaethau deintyddol y GIG yn Aberhonddu. Mae hyn o ganlyniad i dîm newydd yn cymryd dros hen bractis MyDentist yn y dref.

Mae'r perchennog newydd yn y broses o recriwtio tîm newydd gyda'r bwriad o gynnig gwasanaethau'r GIG ar ôl llenwi’r tîm.

Yn y cyfamser bydd y darparwr yn cynnig gofal deintyddol brys ac yn blaenoriaethu triniaeth ddeintyddol. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod trosglwyddo hwn os gwelwch yn dda.

Ymddiheuriadau ond nad ydym eto mewn sefyllfa i gynnig Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn y practis hwn.

 

Pwy ydw i'n cysylltu os oes angen deintydd y GIG arnaf?

Os ydych chi'n byw ym Mhowys, neu os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys, ac mae angen help arnoch chi i ddod o hyd i Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252 808.

Mae ein staff ar y rheng flaen sy'n gwasanaethu’r llinell gymorth ddeintyddol yn profi cam-drin geiriol ar adegau. Byddem yn annog unrhyw un sy'n galw'r llinell gymorth i fod yn garedig gan fod y tîm yn gweithio'n galed iawn i ddelio gyda'ch ymholiadau.

 

Pwy ydw i'n cysylltu ag os oes gen i argyfwng deintyddol?

Os oes gennych argyfwng deintyddol ac nid oes gennych Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch GIG 111. Byddant yn asesu'ch cyflwr ac, os yw’n briodol, rhoi cod i chi er mwyn eich cyfeirio at wasanaeth deintyddol brys lleol.

Os oes gennych boen yn eich dant neu faterion deintyddol eraill gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i reoli eich cyflwr ar wefan GIG 111 Cymru yn www.111.wales.nhs.uk    

 

Cyhoeddwyd: 03/01/2023

Rhannu:
Cyswllt: