Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn galw ar bob unigolyn cymwys i gael eu brechiadau ffliw a COVID-19 am ddim

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi llongyfarch y 50,000 o drigolion Powys sydd wedi cael eu brechiad COVID-19 am ddim ac mae'n annog y 24,000 o unigolion cymwys sy'n weddill i dderbyn eu cynnig.

Mae'r brechiadau COVID-19 a'r Ffliw wedi'u cynnwys yn ymgyrch brechlynnau'r gaeaf ledled Cymru, wrth i'r ddau firws ddod â bygythiad iechyd a allai fod yn ddifrifol, yn enwedig i unigolion sydd mewn risg uchel. Mae'r ddau frechlyn yn cael eu cynnig i bawb sy'n 50 oed ac yn hŷn, menywod beichiog, y rhai â chyflyrau penodol hir dymor, gofalwyr di-dâl a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Mae brechiad y ffliw hefyd yn cael ei gynnig i blant o ddwy oed i flwyddyn Ysgol 11.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:  “Mae COVID-19 a’r ffliw yn dod â risg arwyddocaol i iechyd.  Rydym yn cynnig amddiffyniad am ddim a diogel i'r grwpiau risg uchaf mewn cymdeithas i leihau'r risg o gymhlethdodau iechyd, cyfnodau yn yr ysbyty gyda salwch difrifol, a marwolaeth.   

"Cymerwch y cynnig brechu os ydych yn gymwys gan y bydd yn gostwng eich siawns o ddal clefyd, neu os byddwch yn ddigon anffodus i ddal un neu ddau o’r heintiau,   bydd yn lleihau difrifoldeb eich symptomau.

“Mae'r ffliw hefyd ar gynnydd ond mae amser o hyd i gael eich brechu. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gael brechiad ffliw, i dderbyn y cynnig."

Mae brechiadau ffliw ar gael am ddim i unigolion cymwys gan y rhwydwaith sir gyfan o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol.

Os nad ydych wedi manteisio ar eich cynnig yn barod, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu gofynnwch yn eich fferyllfa leol. Cofiwch y bydd plant oed ysgol fel arfer yn cael cynnig brechlyn yn yr ysgol. 

Os nad ydych yn gymwys i gael brechiad ffliw y GIG am ddim, ond yr hoffech fanteisio ar amddiffyniad ychwanegol, yna mae llawer o fferyllfeydd hefyd yn cynnig brechiad am gost isel.

Mae brechiadau COVID-19 ym Mhowys ar gael o Ganolfannau Brechu Torfol sy'n cael eu gweithredu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Lleolir y rhain yn Y Drenewydd, Llandrindod a Bronllys. Os ydych wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac yn 50 oed neu hŷn neu'n weithiwr iechyd a gofal rheng flaen, yna gallwch alw heibio i gael eich brechlyn. I gael gwybod mwy am glinigau galw i mewn, ewch i Clinigau Galw Heibio - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Ychwanegod Mererid Bowley: “Dylai staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol  dderbyn eu cynnig o frechu hefyd. Maent mewn perygl o gael eu heintio drwy eu gwaith, ond mewn perygl difrifol o basio haint i'r rhai maent yn gofalu amdanynt, sydd ymhlith y grwpiau mwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Mae'r holl Ganolfannau Brechu Torfol yn gweithredu clinigau galw mewn i staff iechyd a gofal cymdeithasol cymwys gael eu brechiad COVID-19. Dewch â'ch prawf cyflogaeth gyda chi, megis cerdyn adnabod, ac fe gewch amddiffyniad yn y fan ar lle."

Mae gwybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael o Diogelu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Rhyddhawyd: 06/12/2022

Rhannu:
Cyswllt: