Mae'r llygad yn organ cymhleth iawn o'r corff. Mae llygaid wrthi’n gweithio o’r eiliad y byddwch yn eu hagor yn y bore hyd nes y byddwch yn eu cau yn y nos, gan drosglwyddo cannoedd ar filoedd o negeseuon i’r ymennydd trwy gydol y dydd.
Mae'n hawdd esgeuluso'ch llygaid oherwydd anaml y maent yn brifo pan fydd problem. Nid yn unig y bydd cael prawf llygaid yn dweud wrthych a oes angen sbectol newydd neu newid presgripsiwn arnoch, mae hefyd yn wiriad iechyd llygaid pwysig. Gall prawf llygaid sylwi ar lawer o broblemau iechyd cyffredinol ac arwyddion cynnar o gyflyrau llygaid cyn bod unrhyw symptomau, y gellir trin llawer ohonynt os canfyddir hwy yn ddigon cynnar.
Nid oes gan rai cyflyrau sy'n bygwth golwg fel glawcoma unrhyw symptomau a gallent achosi colled golwg cyn sylwi ar wahaniaeth. Gellir atal tua 50 y cant o golled golwg os caiff ei ganfod yn ddigon buan.
Os oes gennych broblem llygaid sydd angen sylw brys, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch optometrydd (optegydd) lleol. Mae optometryddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n rhoi diagnosis o broblemau iechyd llygaid a'u trin. Mae'r mwyafrif o bractisau optometreg yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau iechyd llygaid y GIG. Gallwch fynd i'ch practis arferol neu gysylltu ag unrhyw optometrydd ar y stryd fawr sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG.
Os oes gennych broblemau llygaid brys y tu allan i oriau, cysylltwch â GIG 111 Cymru.
Mae triniaeth y GIG ar gyfer problemau iechyd llygaid ar gael yn rhad ac am ddim. Dyma enghreifftiau o broblemau llygaid brys:
Mae profion llygaid rheolaidd yn sicrhau bod problemau'n cael eu canfod yn gynnar, gan amddiffyn eich golwg ac adnabod cyflyrau difrifol fel glawcoma, diabetes a phwysedd gwaed uchel. Dylech gael prawf llygaid bob 2 flynedd, neu'n amlach os bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i wneud hynny.
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael profion llygaid y GIG am ddim gan gynnwys plant hyd at 16 oed a phobl ifanc o dan 19 oed sydd mewn addysg amser llawn.
Mae GIG Cymru hefyd yn darparu sbectol am ddim i blant os oes eu hangen.