Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Aros yn Iach

Os ydych chi ar restr aros am driniaeth, llawdriniaeth neu’n adnabod rhywun a allai fod angen cymorth wrth iddynt aros, gall y Gwasanaeth Aros yn Iach helpu.

Gall paratoi ar gyfer triniaeth neu lawdriniaeth yn effeithiol a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a'ch adferiad.

Gyda'r Gwasanaeth Aros yn Iach, gallwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod:

  • Siarad â phwynt cyswllt penodol am gymorth a chyngor ar reoli eich iechyd a'ch cadw'n iach wrth i chi aros.
  • Os yw eich cyflwr wedi dirywio bydd ein tîm yn eich cyfeirio at adnoddau priodol.
  • Bydd ein tîm ymroddedig yn trafod beth sy'n bwysig i chi ac yn cyfeirio atgyfeiriadau at ofal iechyd amgen neu wasanaethau yn y gymuned.
  • Mae ein tîm ar gael i drafod cefnogaeth amgen y gellid ei darparu i chi, i wella eich iechyd a'ch lles a'ch helpu chi baratoi ar gyfer triniaeth/llawdriniaeth. 

Pam mae'n bwysig paratoi ar gyfer triniaeth/llawdriniaeth?

Bydd paratoi ar gyfer eich triniaeth/llawdriniaeth yn eich helpu chi:

  • ymateb yn well i driniaeth yn y dyfodol ac adfer yn gyflymach
  • gwella eich lefelau egni, lleihau lefelau blinder a gwella eich patrwm cwsg
  • cynnal bywyd annibynnol a gwneud mwy o weithgareddau arferol o ddydd i ddydd
  • gwella lefel eich ffitrwydd cyffredinol a theimlad o les, yn ogystal â hyrwyddo ffordd iach o fyw yn hirdymor.

Sylwch fod yr adnodd gwybodaeth hwn yn ganllaw, ac ni ddylid ei ddefnyddio ar draul unrhyw gyngor rydych wedi'i gael gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. 

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich cyflwr, cysylltwch â’ch ymarferydd gofal iechyd neu eich Meddyg Teulu.  

Deialwch 999 ar gyfer argyfyngau meddygol sy'n peryglu bywyd

 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: