Mae camfanteisio, dan gyfraith y DU, yn golygu manteisio'n annheg ar rywun er budd personol. Mae'n aml yn digwydd pan fydd gan un person fwy o rym neu reolaeth, ac yn defnyddio hynny i roi pwysau ar rywun arall, ei dwyllo neu ei fanteisio arno.
Efallai na fydd plant bob amser yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw yn gam-drin. Hyd yn oed pan fyddant yn gwneud hynny, gall ofn, cywilydd neu ddryswch ei gwneud hi'n anodd iawn siarad allan. Dyma pam ei bod hi'n bwysig i oedolion sylwi ar newidiadau mewn ymddygiad, hwyliau, neu lesiant a allai fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.
Mae llawer o wahanol fathau o gamfanteisio sy’n gallu digwydd, yn effeithio ar blant ac oedolion ac yn arwain at ryw fath o gam-drin neu niwed i’r person, boed yn gorfforol, rhywiol, emosiynol neu ariannol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Caethwasiaeth Fodern
Caethwasanaeth Domestig
Llafur dan orfod
Camfanteisio troseddol
Camfanteisio’n rhywiol
Camfanteisio'n Rhywiol Ar Blant (CSE)
Mae rhagor o wybodaeth am gamfanteisio ar gael drwy glicio ar y dolenni canlynol:
Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio - Cymunedau Diogelach Cymru
Camfanteisio rhywiol ar blant | NSPCC
Camfanteisio troseddol a gangiau | NSPCC
Mae cymorth ar gael. Os ydych chi mewn perygl, neu'n poeni am rywun a allai fod, rydyn ni yma i wrando a helpu. Gallwch ddweud wrth aelod o staff BIAP, dywedwch wrth eich meddyg teulu neu gallwch gysylltu ag un o'r llinellau cymorth neu wasanaeth arbenigol sy'n ddiogel, yn gyfrinachol ac am ddim.
Os ydych chi'n credu bod person mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech chi gysylltu â'r heddlu gan ffonio 999.
Mae Stop it Now yn llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw un sydd â phryderon ynghylch cam-drin a chamfanteisio rhywiol ar blant a sut i'w atal. Gallant eich helpu os ydych chi'n poeni am eich meddyliau, eich teimladau neu'ch ymddygiad eich hun, neu os oes gennych unrhyw bryderon am oedolyn neu berson ifanc arall. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Stop It Now neu ffoniwch rif y llinell gymorth ar 0808 1000 900
Sefydlwyd y Truth Project i roi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol i rannu eu profiadau gyda'r Ymchwiliad Annibynnol Cam-drin Plant yn Rhywiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Wefan The Truth Project