Yng nghyfraith y DU cyfeirir at blant mewn gofal fel "plant sy'n derbyn gofal". Mae plentyn yn "derbyn gofal" os yw yng ngofal yr awdurdod lleol am fwy na 24 awr. Yn gyfreithiol, gallai hyn fod pan fyddant yn:
Bydd plentyn yn rhoi'r gorau i fod yn "derbyn gofal" pan fydd naill ai'n cael ei fabwysiadu, yn dychwelyd adref neu'n troi'n 18 oed. Dan y Canllaw Pan Fydda i'n Barod, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi plant sy'n gadael gofal yn 18 oed nes eu bod yn cyrraedd 21 neu 25 oed os ydyn nhw mewn addysg.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Plant 2014, ewch i Wefan y Llywodraeth.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn gofalu am blentyn rhywun arall, gallai fod yn faethu preifat ac mae angen i chi roi gwybod i Gyngor Sir Powys.
Cysylltwch â Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant trwy Email-csfrontdoor@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827666 (oriau swyddfa) 0845 054 4847 (y tu allan i oriau)
I gael rhagor o wybodaeth am faethu preifat, ewch i wefan Cyngor Sir Powys
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael gwybod am eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Mae'r Comisiynydd Plant yn gweithio i bob plentyn yng Nghymru sydd hyd at 18 oed a hyd at 21 oed os ydynt wedi bod mewn gofal, neu 25 os ydynt wedi bod mewn gofal ac yn dal i fod mewn addysg.
Am ragor o wybodaeth ewch i Gomisiynydd Plant Cymru - Amdanom Ni (childcomwales.org.uk)