Neidio i'r prif gynnwy

Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru

Yng Nghymru, mae'n erbyn y gyfraith i gosbi plentyn yn gorfforol.

Ers 21 Mawrth 2022, mae plant wedi cael yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiad ag oedolion.

Gall cosb gorfforol gynnwys smacio, taro, slapio, ysgwyd, neu unrhyw ddefnydd arall o rym corfforol gyda'r bwriad o gosbi plentyn.

Mae cefnogi plant i ddysgu ffiniau ac ymddygiad priodol yn rhan bwysig o rianta, ond mae yna lawer o ffyrdd cadarnhaol, anghorfforol, o wneud hyn. Nid yw'r gyfraith yn atal rhieni a gofalwyr rhag cymryd camau i gadw plant yn ddiogel rhag niwed neu gyflawni cyfrifoldebau gofalu bob dydd.

Am wybodaeth, cyngor a chymorth ar rianta cadarnhaol a'r gyfraith yng Nghymru, ewch i wefan Stopio Cosb Gorfforol Llywodraeth Cymru: Stopio cosbi corfforol i blant | LLYW.CYMRU

Rhannu:
Cyswllt: