A wyt ti mewn perygl uniongyrchol? Ffonia 999
Nid yw cam-drin bob amser yn gorfforol, gall fod ar sawl ffurf, a gall ddigwydd unrhyw le. Os yw rhywbeth yn teimlo'n anghywir, gelli archwilio yma, ar dy liwt dy hun. Mae cymorth ar gael ledled Powys a Chymru.
Gall fod yn anodd adnabod a yw dy brofiadau di, neu brofiadau rhywun rwyt ti'n agos atynt, yn gam-drin. Isod mae ychydig o gwestiynau i dy helpu i ddechrau adnabod arwyddion cam-drin:
Wyt ti byth yn nerfus ynghylch ymateb rhywun?
Wyt ti'n gweld dy ffrindiau neu dy deulu’n llai aml achos rhywun arall?
Wyt ti byth yn teimlo fod rhywun yn dy wylio neu dy fonitro?
Wyt ti'n teimlo fel bod dy arian neu dy benderfyniadau'n cael eu rheoli?
Wyt ti'n teimlo fel dy fod yn gorfod bod yn ofalus rhag gwneud rhywun yn ddig?
Wyt ti'n cael dy roi i lawr yn gyson?
Oes rhywun yn dweud wrthot ti beth y cei di wneud, gwisgo neu ble i fynd a phwy y cei di weld?
Wyt ti ofn y gallai aelod o dy deulu dy frifo'n gorfforol?
A yw aelod o dy deulu erioed wedi bygwth dy frifo di, dy blant, neu rywun rwyt ti'n gofalu amdanynt?
A wyt ti wedi cael dy anafu, hyd yn oed os dim ond rhywfaint, yn ystod dadl neu wrthdaro?
A yw aelod o dy deulu yn blocio drysau, yn dy atal rhag gadael, neu dy gadw mewn ystafell?
A yw aelod o dy deulu wedi achosi difrod i dy eiddo drwy ddicter (e.e., torri ffôn, malu dodrefn)?
A wyt ti'n teimlo bod yn rhaid i ti newid dy ymddygiad er mwyn osgoi cael dy niweidio'n gorfforol?
A yw dy bartner erioed wedi dy feio am y trais neu wedi dweud mai dy fai di oedd e’?
A oes rhywun erioed wedi dy frifo'n gorfforol mewn ffordd rywiol?
A oes rhywun wedi dy orfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, neu wedi ceisio dy orfodi i wneud hynny?
A yw'r person sy'n ymddwyn fel hyn yn rhywun sy'n perthyn yn agos i ti (er enghraifft, aelod o'r teulu lle nad yw'r math yma o berthynas yn briodol)?
A yw'r person yma’n anfon negeseuon, lluniau neu fideos rhywiol neu anweddus atat ti, neu'n ceisio cynnal sgyrsiau rhywiol gyda ti?
A wyt ti erioed wedi cael dy roi dan bwysau neu dy orfodi i dynnu lluniau rhywiol?
A wyt ti wedi cael dy orfodi neu dy roi dan bwysau i gymryd rhan mewn fideos rhywiol?
Nid oes rhaid dy fod ti wedi profi hyn i gyd er mwyn i rywbeth fod o'i le, ac mae'n iawn os nad wyt ti'n siŵr. Ond, os wyt ti wedi profi unrhyw un o'r uchod, efallai dy fod yn profi cam-drin.
Nid yw pawb yn adnabod cam-drin ar unwaith.
Efallai dy fod yn poeni am y person, yn gobeithio y bydd pethau'n newid, neu'n teimlo'n ansicr ynghylch yr hyn sy'n mynd ymlaen. Mae'r teimladau hyn yn gyffredin.
Nid wyt ti'n gor-ymateb, ac nid oes rhaid i ti geisio datrys popeth ar dy ben dy hun.
Os yw unrhyw un o'r rhain yn teimlo'n gyfarwydd, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Adnabod yr arwyddion.
Gelli siarad â rhywun yn gyfrinachol, os wyt ti eisiau cyngor, sicrwydd neu help i greu cynllun.
Cei dy glywed. Ni fyddi’n cael dy orfodi i wneud dim.