Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cymryd cam mawr wrth drawsnewid ysbytai yn ddigidol

27 Mai 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn falch o gyhoeddi carreg filltir bwysig yn ei daith tuag at drawsnewid digidol.

Mae Ward Llewelyn yn ysbyty Bronllys wedi mynd yn fyw yn llwyddiannus gyda'i system Presgripsiynu a Rheoli Meddyginiaethau (ePMA) electronig newydd, gan gynnwys y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR). Mae'r fenter hon yn nodi'r cam cyntaf yn y broses o gyflwyno digidol fesul cam gan BIAP ac yn arwydd o'i hymrwymiad i wella diogelwch cleifion, ansawdd gofal ac effeithlonrwydd gweithredol.

Mae mabwysiadu ePMA eisoes yn cefnogi llif gwaith gwell ar y ward, gyda chlinigwyr a thimau fferyllfa yn profi mwy o gywirdeb wrth bresgripsiynu, baich gweinyddol llai, a mynediad cyflymach at gofnodion meddyginiaeth cleifion. Mae rhannu gwybodaeth amser real yn galluogi ymyriadau cyflymach ac yn cryfhau cyfathrebu rhwng gwahanol dimau, sy'n golygu bod anghenion cleifion yn cael eu trin yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

Mae adborth gan staff wedi bod yn hynod gadarnhaol, gan dynnu sylw at y gostyngiad mewn prosesau â llaw a gwaith papur, yn ogystal â helpu lleihau gwallau meddyginiaeth. Mae'r platfform digidol yn symleiddio pob cam o reoli meddyginiaethau, o bresgripsiwn i ddosbarthu a gweinyddu, gan sicrhau y gallu i olrhain ac atebolrwydd ym mhob cam.

Nododd Dr Bingham, Meddyg Teulu Canolfan Iechyd y Gelli Gandryll a Meddyg ar ward Llewellyn:

"Roeddwn i ar ward Llewellyn wrth i’r ePMA fynd yn fyw. Gwnaeth lefel y gefnogaeth a roddwyd i staff y ward ac ymrwymiad fy nghydweithwyr ePMA argraff fawr arnaf.

“Yn bersonol, gyda’r trolïau bwrdd gwaith symudol, trodd fy rownd ward yn beth o harddwch digidol. Gallwn i gael WNCR, ePMA a WCP i gyd ar agor ar yr un pryd, dim angen cerdded rhwng y cyfrifiadur, ystafell y claf, rhedeg ar ôl y cerdyn cyffuriau sy'n crwydro'n barhaus na nodiadau papur y claf.

O O'r chwith i'r dde: Sue Hamer, Pennaeth Rhaglenni Digidol BIAP, James Goddard, Arweinydd e-Bresgripsiynu Ysbyty BIAP, Mo Abdelkafi, Prif Fferyllydd BIAP , Bethan Perry, Uwch Dechnegydd Fferyllfa BIAP, Ffion Thomas, Uwch Wybodegydd Clinigol BIAP, Emma Dodge, Nyrs Glinigol Arbenigol Gwybodeg BIAP, Liz Davies, Arbenigwr Cynnyrch BIAP

Dywedodd Michelle Sweet, Rheolwr Ward yn BIAP:

 “Cyflwyno ePMA wedi bod yn newid mawr i’r tîm, ac mae wedi cymryd ychydig o amser i ddod i arfer ag ef, yn enwedig yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf. Bydd unrhyw symudiad i ffwrdd o rywbeth cyfarwydd bob amser yn gofyn am rywfaint o addasu, ond ar y cyfan mae wedi setlo i mewn yn dda.

“Un o’r gwahaniaethau mwyaf yw nad oes rhaid chwilio am siartiau cyffuriau mwyach. Mae popeth yno pan fyddwch ei angen, mae'n glir ac yn ddarllenadwy, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i ba mor llyfn y mae pethau'n rhedeg. 

“Mae’r gefnogaeth gan y tîm hyfforddi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Maen nhw wedi bod yn weladwy, yn hawdd mynd atyn nhw ac yn gyflym i ymyrryd pan fo angen, sydd wedi helpu i leddfu llawer o'r pryder sy'n dod gyda newid fel hyn. Mae cael y gefnogaeth honno ar lawr gwlad o ddechrau sifft y bore hyd at y sifft nos wedi rhoi’r hyder i staff i barhau a pheidio â theimlo ar eu pennau eu hunain gydag ef.”

Dywedodd Holly Jarman, Technegydd Fferyllfa yn PTHB:

“Ers defnyddio ePMA ar fy ward mae yna fanteision clir eisoes i staff a chleifion.  Mae'r system wedi gwella'r ffordd rydym yn gweithio ar y ward drwy ganiatáu i nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad at siart cyffuriau claf ar yr un pryd, gan leihau oedi a gwella cyfathrebu rhwng staff fferyllfa, nyrsio a meddygol.

“Oherwydd natur wledig Powys, mae ePMA yn werthfawr wrth gefnogi gweithio o bell i adolygu siartiau meddyginiaeth a hwyluso rhyddhau.

“Mae rhestr flaenoriaethau’r fferyllfa hefyd wedi gwella llif gwaith drwy helpu nodi cleifion sydd newydd eu derbyn, newidiadau i feddyginiaeth, a’r rhai sydd angen adolygiad clinigol brys. Mae hyn yn cefnogi presgripsiynu mwy diogel, rheoli meddyginiaethau'n fwy effeithlon, a gofal cleifion amserol.”

Dywedodd Jayne Price, Prif Fferyllydd Gwasanaethau Cymunedol yn BIAP:

“Mae’n dyst i ymrwymiad ac ymroddiad timau prosiect clinigol; digidol ac ePMA amlddisgyblaethol BIAP pa mor esmwyth y mae ein cyflwyniad cyntaf ar y ward wedi mynd. Drwy symud i ePMA, rydym yn gwella diogelwch, yn gwella effeithlonrwydd, mynediad a goruchwyliaeth ac yn gosod sylfeini ar gyfer systemau presgripsiynu a gweinyddu digidol i optimeiddio gofal cleifion, prosesau fferyllfa a meddyginiaethau ymhellach.”

Dywedodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol ac Uwch-berchennog Risg yn BIAP:

Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a phwysig iawn i’r Bwrdd Iechyd. Nid yn unig y bydd yn helpu gwella diogelwch gwasanaethau clinigol, ond bydd yn helpu staff i ddarparu meddyginiaethau'n fwy effeithlon. Diolch am gefnogaeth y staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i weithredu'r system ac edrychaf ymlaen at weld ei defnydd yn tyfu wrth iddi gael ei gweithredu ar draws y Bwrdd Iechyd.”

Dim ond y dechrau yw'r cyflawniad hwn ym Mronllys. Wrth i BIAP ehangu ePMA i wardiau ychwanegol, bydd yn edrych i adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gan feithrin amgylchedd mwy diogel i gleifion, a grymuso ein timau gofal iechyd gyda'r dechnoleg sydd ei hangen arnynt i ddarparu gofal eithriadol.