Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin am y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron

Logo cynllun croeso bwydo ar y fron

Cwestiynau cyffredin defnyddiol i fusnesau a sefydliadau:

Ydy hi’n costio unrhyw beth i ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron?

Nac ydy, ni chodir tâl i ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron.

A oes angen i mi gael lle preifat ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron?

Nac oes. Mae'r rhan fwyaf o famau yn hapus i fwydo yn unrhyw le, yn enwedig pan fyddant yn gwybod y bydd croeso iddynt.  Efallai y bydd rhai mamau’n gofyn os oes gennych chi le preifat, efallai os yw eu babi’n dal yn ifanc iawn a’u bod yn teimlo’n ansicr ynghylch bwydo, neu os oes ganddyn nhw fabi sy’n tynnu sylw’n hawdd; felly os oes gennych chi le preifat lle gall mam eistedd, mae croeso i chi gynnig hynny i fam sy'n holi.  Nid yw byth yn briodol awgrymu bod mam yn bwydo ei babi yn y toiled na mynnu bod mam yn defnyddio man preifat os oes un gennych chi.

A oes angen i mi neu aelod o’n staff wneud unrhyw hyfforddiant ar gyfer y cynllun?

Mae’r daflen wybodaeth ar gyfer staff yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gryno am y gyfraith sy’n diogelu hawl person i fwydo ar y fron mewn man cyhoeddus, pwysigrwydd bwydo ar y fron a pham bod angen y cynllun.  Mae gofyn i aelodau staff neu wirfoddolwyr ddarllen y daflen a bod yn ymwybodol o beth i'w wneud os daw mam neu deulu sy'n bwydo ar y fron i'ch safle yn ddigon.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd cwsmer arall yn gofyn i mi ddweud wrth fam am roi’r gorau i fwydo ei babi ar y fron?

Mae’r gyfraith yng Nghymru (a Lloegr a’r Alban) yn datgan na all mam gael ei hatal rhag bwydo ei babi ar y fron mewn man cyhoeddus. Os bydd rhywun yn gofyn i chi atal mam rhag bwydo ar y fron gallech roi gwybod iddynt am y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) a dangos iddynt daflen wybodaeth staff Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron os yw ar gael gennych.  Gallech ofyn i’r sawl a fynegodd y pryder a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus yn symud i eistedd yn rhywle arall os yw hynny’n briodol (rhaid ichi beidio â gofyn i’r fam symud).

Beth os ydw i’n cynnal gweithgareddau mewn nifer o leoliadau gwahanol ond nad oes gennyf fy safle fy hun, a allaf gofrestru ar y cynllun?

Cewch! Os ydych chi'n cynnal gweithgareddau fel cerddoriaeth, ioga neu dylino babanod neu weithgareddau eraill lle mae croeso i fabanod, a’ch bod yn symud o un lleoliad i’r llall, gallwch chi gofrestru'ch sefydliad neu fusnes i ddangos eich bod chi'n gyfeillgar i fwydo ar y fron a'ch bod chi'n croesawu rhieni sy'n bwydo ar y fron.

A allaf gofrestru fy musnes hyd yn oed os nad oes gennyf le i fam eistedd a bwydo?

Gallwch! Byddech yn synnu pa mor hawdd y gall fod i gynnig rhywle i fam fwydo.  Os oes gennych le i hyd yn oed un gadair, yna efallai y bydd mam yn falch iawn o allu bwydo babi heb orfod aros.

Ydw i’n cael unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo?

Wrth ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron byddwch yn derbyn sticer Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron dwyieithog, a gofynnwn ichi roi hwn yn eich ffenestr. Bydd hyn yn dangos i famau a theuluoedd sy'n bwydo ar y fron a'r gymuned ehangach bod eich lleoliad yn perthyn i’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Byddwch hefyd yn derbyn pecyn gwybodaeth ar gyfer staff, a dogfen bolisi.  Bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch yn electronig.

Sut bydd y Cynllun yn cael ei hyrwyddo?

Mae’r Cynllun yn cael ei hyrwyddo ar ein gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac mewn grwpiau cymorth bwydo ar y fron. Mae hefyd yn cael ei hyrwyddo gan Fydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd. Yn ogystal, mae'n rhaid i holl aelodau'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gytuno i'w manylion gael eu cynnwys ar wefan Dewis Cymru yn yr adran Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Mae hyn yn sicrhau y gall mamau ddod o hyd i bob lleoliad croesawu bwydo ar y fron ym Mhowys yn hawdd pan fyddant allan.

A oes unrhyw wiriadau neu ofynion parhaus ar gyfer y Cynllun?

Unwaith y flwyddyn bydd ein Tîm Iechyd Cyhoeddus yn cysylltu â chi i weld a ydych chi'n dal yn hapus i fod yn rhan o’r Cynllun ac i holi os yw’ch manylion wedi newid.  Gwneir hyn i gadw'r rhestr o leoliadau Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn gyfredol ac yn gywir ar wefan Dewis Cymru. Os ydych wedi penderfynu gadael y Cynllun, gofynnwn i chi dynnu’r sticer Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron i lawr o’ch ffenestr, a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar adran Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Dewis Cymru (ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw restrau eraill y gallech fod yn rhan ohonynt ar Dewis Cymru).

Nid oes gan fy musnes unrhyw leoliadau cyhoeddus, ond mae gennym weithwyr. A allwn ni gofrestru?

Cewch! Trwy ymuno â'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron gallwch ddangos i'ch gweithwyr ac unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth eich bod yn cefnogi bwydo ar y fron. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen y wybodaeth ar sut i fod yn gyflogwr sy'n croesawu bwydo ar y fron.

Rhannu:
Cyswllt: