Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cochlea a BCHI yn Ne Cymru

Mae'r ymgysylltiad hwn bellach wedi cau. Diolch i bawb sydd wedi cymryd y cyfle i rannu eich barn. Ar hyn o bryd mae adborth yn cael ei ddadansoddi er mwyn gallu gwneud argymhelliad ar y camau nesaf yn ddiweddarach eleni.

Dyfodol y Gwasanaethau Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Arbenigol yn y De-Ddwyrain Cymru, y De-Orllewin Cymru a De Powys

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) yn comisiynu Mewnblaniadau yn y Cochlea a Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Dargludiad Esgyrn (BCHI) ar gyfer poblogaeth Cymru ar ran y 7 Bwrdd Iechyd. Mae’r Byrddau Iechyd yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a De Powys wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw yn Ne Cymru. Nid yw gwasanaethau ar gyfer cleifion sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys yn cael eu cynnwys yn y gwaith yma.

Hoffai PGIAC ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn am drefniadau comisiynu ar gyfer yr holl wasanaethau dyfeisiau mewnblaniad clyw arbenigol yn y dyfodol.

Bydd y broses ymgysylltu yn dechrau ar 4 Ionawr 2023 ac yn para tan 14 Chwefror 2023.

Mae’r dogfennau canlynol wedi’u paratoi i’ch helpu i ddeall y newidiadau hyn a sut y gall hyn effeithio ar y gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw.

Dogfennau Defnyddiol

  • Dogfen Ymgysylltu Graidd – Cymraeg
  • Dogfen Ymgysylltu Graidd – Saesneg
  • Sleidiau sy’n Rhoi Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu – Cymraeg
  • Sleidiau sy’n Rhoi Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu – Saesneg
  • Sleidiau sy’n Rhoi Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu – Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Sleidiau sy’n Rhoi Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu – Troslais Cymraeg
  • Sleidiau sy’n Rhoi Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu – Troslais Saesneg
  • Dogfen Ymgysylltu Hawdd ei Deall – Cymraeg
  • Dogfen Ymgysylltu Hawdd ei Deall – Saesneg
  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (Drafft) – Cymraeg 
  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (Drafft) – Saesneg

Dweud eich dweud

Gall rhanddeiliaid sydd â diddordeb gwblhau holiadur ar-lein trwy https://forms.office.com/r/s8bSYTaU5K

Mae gwybodaeth am yr ymgysylltu hwn wedi'i hanfon yn uniongyrchol at gleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac at dimau clinigol.

Rhannu:
Cyswllt: