Mae'r ymgysylltiad hwn wedi dod i ben.
Dysgwch fwy a dweud eich dweud erbyn 17 Chwefror 2023 ar wefan Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn gyfrifol am gyd-gynllunio Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol ar ran GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys comisiynu gwasanaethau ffrwythlondeb a lywodraethir gan ddau bolisi comisiynu clinigol: CP37 Profion Genetig Cyn Mewnblaniad - Anhwylderau Monogenig a CP38: Gwasanaethau Ffrwythlondeb Arbenigol - Meddygaeth Atgenhedlol â Chymorth.
Mae’n rhan arferol o’n gwaith adolygu polisïau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf ac anghenion y GIG ehangach yng Nghymru.
Mae’r polisïau comisiynu ar gyfer meddygaeth atgenhedlu â chymorth a Phrofion Genetig Cyn Mewnblaniad – Anhwylderau Monogenig (PGT-M) yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, ac fel rhan o’r broses hon hoffai WHSSC ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn ar y polisïau comisiynu hyn (a y ffurflenni Sgrinio ac Asesu Effaith ar Gydraddoldeb) sydd ar gael isod.
Bydd y broses ymgynghori yn rhedeg tan 17 Chwefror 2023.