Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (“Deddf SPPP”) yn cyflawni ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu sy’n rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru.

Ar 1 Ebrill 2024 daeth y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol newydd (“y Ddyletswydd”) ar gyrff cyhoeddus i rym yng Nghymru. Mae'r Ddyletswydd wedi'i nodi yn adrannau 15, 16 a 18 o Ddeddf SPPP. Mae'n ategu dyletswyddau llesiant presennol y mae rhai cyrff cyhoeddus eisoes yn ddarostyngedig iddynt o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf WFG”).

Mae'r Ddyletswydd hon yn cynnwys gofynion i gyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.

Rhannu:
Cyswllt: