Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Integredig Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 2024-2029

Rydym yn falch o gyflwyno'r Cynllun Integredig hwn ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae hwn yn Gynllun Pum Mlynedd ar gyfer y cyfnod Ebrill 2024 i Fawrth 2029. Mae'n nodi gwaith y bwrdd iechyd yn y tymor byr, canolig a thymor hirach, i greu 'Powys Iach, Gofalgar', y strategaeth iechyd a gofal tymor hir a rennir ar gyfer y Sir.

Mae'n ymdrin ag ystod eang o gyfrifoldebau’r bwrdd iechyd dros ofal iechyd i bobl Powys, fel darparwr a chomisiynydd gwasanaethau. Felly, mae'n gynllun ymbarél eang, cymhleth sy'n ceisio cwmpasu'r holl ofynion a dyletswyddau a osodir ar y bwrdd iechyd.

Mae'r cynllun yn ymateb i un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes diweddar y GIG ym Mhowys. Mae amseroedd aros ar ôl y pandemig ar gyfer diagnosis a thriniaeth yn rhy hir, ac mae pwysau chwyddiant wedi cyfrannu at sefyllfa ariannol ddiffygiol. Eleni, fel yn y flwyddyn flaenorol, ni fu'n bosibl llunio cynllun sy'n cydymffurfio'n llawn mewn perthynas â'r ddyletswydd adennill ariannol dros gyfnod o dair blynedd. Arweiniodd y sefyllfa ariannol at gynnydd yn statws uwchgyfeirio ac ymyrryd y bwrdd iechyd i fonitro gwell ar gyfer cynllunio a chyllid yn 2023.

Felly, mae'r cynllun yn nodi'r cynnig gorau posibl i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ac ymdrechu i ddarparu gofal diogel, amserol, effeithiol, effeithlon, teg ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n diwallu anghenion poblogaeth Powys. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chymunedau, staff a rhanddeiliaid i adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau iechyd y Sir.

Mae hwn hefyd yn gynllun sy'n cydnabod bod y system gofal iechyd bresennol dan straen sylweddol ac felly mae angen newid sylweddol. Gellir gyrru rhywfaint o hyn drwy waith trawsnewid dan arweiniad y bwrdd iechyd, gan weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r cynllun yn egluro yn union beth yw'r heriau a beth y gall y bwrdd iechyd ei wneud, ar ei ben ei hun ac mewn cydweithrediad ag eraill, i adeiladu dull mwy cynaliadwy ar gyfer Powys.

Mae'n amlwg o'r dadansoddiad a nodir yn y cynllun hwn y bydd angen i ni adolygu a newid ein model gofal er mwyn diwallu anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu yn y dyfodol, ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni. Mae hyn yn seiliedig ar arfarniad trylwyr a gynhaliwyd dros gyfnod o chwe mis, wedi'i lywio gan ymgysylltu helaeth â staff, y cymunedau ym Mhowys a'n rhanddeiliaid.

Mae'r Bwrdd wedi cyfarfod yn aml ac yn rheolaidd mewn sesiynau briffio a chyfarfodydd ffurfiol, gan gynnwys wyth sesiwn ddatblygu, cymryd rhan mewn datblygu blaenoriaethau strategol a chraffu ar y cynllun a'r broses yn gynhwysfawr. Mae hyn wedi rhoi sicrwydd bod y cynllun yn realistig, ac yn cynrychioli'r cynnig gorau yn yr amgylchiadau presennol a rhagweladwy.

Ar y sail hon, mae'r Bwrdd yn cefnogi'r cyflwyniad i Lywodraeth Cymru i gwrdd â dyddiad cau diwedd mis Mawrth 2024, yn cydnabod na ellir ei gyflwyno fel 'CTCI' llawn (Cynllun Tymor Canolig Integredig) a bydd ffocws penodol ar gyflawni blwyddyn gyntaf y cynllun.

Hayley Thomas, Prif Weithredwr

Dr Carl Cooper, Cadeirydd

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynllunio BIAP dros e-bost yn: planning.powys@wales.nhs.uk

Efallai na fydd y ffeiliau hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. Cysylltwch â ni yn planning.powys@wales.nhs.uk i ofyn am fformat gwahanol.

Rhannu:
Cyswllt: