Ein nod yw cefnogi lles holl staff, cleifion ac aelodau cymuned Powys a gallwn weithio tuag at gyflawni hyn trwy’r rhoddion caredig, cymynroddion a’r arian a godir drwy ddigwyddiadau codi arian. Gall yr arian a dderbyniwn fod ar gyfer prosiectau penodol neu ddefnydd cyffredinol a bydd yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl Powys.
Gallwch gysylltu â thîm Elusen Iechyd Powys dros y ffôn ar
Os hoffech anfon ymholiad drwy e-bost, llenwch y ffurflen ymholiad neu defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod. Byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Ysbyty Bronllys, Bronllys
Aberhonddu, Powys, LD3 0LY
Facebook: @PowysCharity
Mae Cronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (yr Elusen) wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau - Rhif Cofrestredig 1057902.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) wedi'i ddynodi'n Ymddiriedolwr Corfforaethol ein Helusen. Er mwyn cynorthwyo'r Ymddiriedolwr Corfforaethol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y cofrestriad hwn, sefydlwyd Pwyllgor Cronfa Elusennol gyda phwerau dirprwyedig i reoli'r Elusen. Gellir dod o hyd i fanylion y Pwyllgor yn y ddolen ganlynol: Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.