Mae'r rhaglen 'Gwella Gyda'n Gilydd' yn gweithio ledled y sir i ddod o hyd i ffyrdd o barhau i ddarparu gwasanaethau o safon sy'n diwallu orau anghenion pobl Powys.
Dywedodd Hayley Thomas, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP): "Ein huchelgais yw bod trigolion Powys yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd diogel, o ansawdd sy'n ddibynadwy. Rydym am wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym, wrth hefyd sicrhau, yn anad dim, bod gofal a diogelwch cleifion ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn."
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r sir a'i phoblogaeth wedi profi llawer o newidiadau. Mae cymunedau'n mynd yn hŷn, ac wrth iddynt heneiddio, mae mwy o bobl yn byw gyda dau neu fwy o gyflyrau iechyd. Mae etifeddiaeth pandemig COVID-19 yn dal i effeithio ar wasanaethau, gyda galw cynyddol am driniaethau a rhestrau aros yn cynyddu. Mae cynnydd mawr yng nghost tanwydd, bwyd a biliau eraill wedi cael effaith hefyd.
Mae Gwella Gyda'n Gilydd yn addo gweithio gyda phobl leol, ein staff a'n sefydliadau rhanddeiliaid, i ddatblygu cynllun sy'n diwallu anghenion cymunedau Powys dros y 10 i 25 mlynedd nesaf.
Bydd y cynllun hwn yn helpu BIAP i ymateb i newidiadau mewn salwch a thriniaeth a buddsoddi mwy mewn atal salwch. Bydd hefyd yn chwilio am ffyrdd o adeiladu gweithlu cynaliadwy, ac i wella adeiladau a chyfleusterau fel y gallant ddiwallu ein hanghenion yn y dyfodol.