Cwestiynau Cyffredin

Dysgwch fwy am y ymgynghoriad yn ein cwestiynau cyffredin isod. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru trwy gydol yr ymgynghoriad.

Diweddarwyd 23 Hydref 2026

1. Y weledigaeth – beth rydym ni’n ceisio’i gyflawni?

Beth mae Gwella Gyda’n Gilydd yn ceisio'i gyflawni?

Mae Gwella Gyda'n Gilydd yn rhaglen hirdymor i ddatblygu gwasanaethau iechyd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn gallu diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol ym Mhowys. Y cyfeiriad yw symud o system a all fod yn rhy ddibynnol ar ofal ysbyty tuag at un sy'n darparu mwy o waith ataliol, cymorth cynharach a gofal yng nghartrefi pobl a chymunedau lleol lle mae hyn yn ddiogel ac yn briodol. Byddai gofal ysbyty, arbenigol a chleifion mewnol yn parhau i fod yn bwysig pan fydd ei angen yn glinigol ar bobl.

Beth allai fod yn well i gleifion a chymunedau?

Nod y cynigion yw helpu mwy o bobl i gadw'n iach ac yn annibynnol am gyfnod hirach; darparu cymorth cynharach pan fydd iechyd yn dechrau dirywio; cryfhau gofal brys ym Mhowys; gwella adsefydlu ac ailalluogi; cefnogi rhyddhad diogel o'r ysbyty; cryfhau argyfwng iechyd meddwl a chymorth cymunedol; a gwella cydlynu rhwng gwasanaethau. Maent hefyd yn anelu at leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi a theithiau diangen y tu allan i Bowys lle gellir darparu gofal yn ddiogel yn agosach at adref.

Beth mae 'cymunedol o’r cychwyn' yn ei olygu yn ymarferol?

Mae'n golygu dylunio gwasanaethau fel bod cymorth yn y cartref a’r gymuned yn rhan gynlluniedig o'r system iechyd yn hytrach na rhywbeth a ystyrir ar ôl gofal ysbyty yn unig. Yn dibynnu ar yr angen, gallai hyn gynnwys nyrsio cymunedol, therapïau, ymateb brys yn y gymuned, Ysbyty yn y Cartref, adsefydlu, ailalluogi, cymorth iechyd meddwl, diagnosteg, monitro o bell a gwell cydlynu rhwng gwasanaethau.

Ydych chi'n ceisio disodli ysbytai gyda gofal yn y cartref?

Na. Nid yw'r cynigion yn dileu'r angen am ofal ysbyty. Byddai ysbytai cymunedol yn parhau i chwarae rhan bwysig a byddai angen gofal mewnol, argyfwng ac arbenigol o hyd. Y nod yw osgoi derbyn pobl i’r ysbyty pan ellir gofalu amdanynt yn ddiogel yn rhywle arall, ac osgoi sefyllfa lle mae pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd ei angen oherwydd nad yw'r cymorth cywir ar gael y tu allan i'r ysbyty.

2. Pam newid?

Pam na all gwasanaethau aros fel y maent?

Mae'r Achos dros Newid yn nodi poblogaeth sy'n heneiddio, galw cynyddol, anghenion iechyd mwy cymhleth, prinder gweithlu, adeiladau sy'n heneiddio, pwysau ariannol ac anawsterau i gynnal rhai gwasanaethau ar draws llawer o safleoedd bach. Mae hefyd yn nodi arosiadau hir yn yr ysbyty y gellir eu hosgoi a dibyniaeth ar ofal y tu allan i Bowys. Daeth yr asesiad i'r casgliad y byddai peidio â newid y model presennol yn golygu na fyddai modd mynd i’r afael yn ddigonol â'r pwysau tymor hwy hyn.

A yw hyn wir yn ymwneud ag arbed arian?

Mae pwysau ariannol yn un rheswm pam mae newid yn cael ei ystyried, ond nid dyma'r unig reswm. Mae'r Achos dros Newid hefyd yn canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth, ansawdd a diogelwch, cynaliadwyedd y gweithlu, mynediad, adeiladau sy'n heneiddio a gwasanaethau dibynadwy. Mae angen i opsiwn fod yn ddiogel yn glinigol, yn gyflenwadwy ac yn gallu diwallu anghenion y dyfodol o hyd; ni fyddai bod yn rhatach yn ddigon ar ei ben ei hun.

A yw'r gwasanaethau presennol yn anniogel?

Nid yw'r Achos dros Newid yn dweud bod staff yn darparu gofal gwael. Mae'n dweud bod y drefn bresennol yn dod yn fwyfwy anodd ei chynnal dros y tymor hwy oherwydd problemau fel timau bach a gwasgaredig, recriwtio a chadw staff, amrywiad yn argaeledd gwasanaethau, cyfyngiadau ystadau a galw cynyddol.

Pam nad yw 'dim newid' yn un o'r opsiynau?

Dangosir y trefniadau gwasanaeth presennol a blaenorol fel cymaryddion. Fodd bynnag, daeth y broses datblygu opsiynau i'r casgliad na fyddai cynnal y trefniadau presennol yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r Achos dros Newid. Gall yr ymgynghoriad herio’r casgliad hwnnw o hyd, y dystiolaeth y tu ôl iddo a’r rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd.

3. Sut y datblygwyd yr opsiynau – ac a allant newid o hyd?

Sut oedd cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid yn rhan o’r broses?

Profwyd yr Achos dros Newid drwy ymgysylltu â chleifion, preswylwyr, staff, partneriaid a rhanddeiliaid. Daeth syniadau hefyd o weithdai clinigol a phroffesiynol, adolygiadau gwasanaeth, dadansoddiad technegol, adborth staff a phartneriaid, a digwyddiadau ymarferol yn cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a chynrychiolwyr cymunedol. Helpodd y gwaith ymgysylltu i lunio'r egwyddorion dylunio, yr egwyddorion teithio a'r meini prawf asesu a ddefnyddiwyd i ddatblygu a phrofi'r opsiynau.

Sut cafodd yr opsiynau eu hasesu?

Defnyddiodd y Bwrdd Iechyd broses bum cam o ddeall yr angen am newid hyd at werthuso a sicrwydd. Profwyd opsiynau o ran cynaliadwyedd clinigol, mynediad, gallu i'w cyflawni, addasrwydd strategol a chynaliadwyedd ariannol, ochr yn ochr â'r gweithlu, cyllid, ystadau, galw a chapasiti, teithio, llwybrau cleifion, effeithiau ar gydraddoldeb ac ansawdd, her glinigol a sicrwydd annibynnol.

Ydy'r penderfyniad wedi'i wneud yn barod?

Nac ydy. Nid yw'r opsiynau wedi'u cyflwyno yn nhrefn eu blaenoriaeth ac roedd cymeradwyo'r Achos Busnes Cyn Ymgynghori yn gymeradwyaeth i ymgynghori, nid cymeradwyaeth i roi opsiwn ar waith. Rhaid ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad, cynigion amgen, asesiadau effaith wedi'u diweddaru a thystiolaeth ychwanegol cyn gwneud argymhellion a phenderfyniadau.

Oes gan y Bwrdd Iechyd opsiwn a ffefrir?

Ni nodir unrhyw opsiwn a ffefrir yn y ddogfen ymgynghori. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl ystyried manteision, anfanteision ac effeithiau'r opsiynau ac awgrymu newidiadau neu ddewisiadau eraill.

Beth os yw'r cyhoedd yn awgrymu opsiwn gwahanol?

Gellir cyflwyno cynigion amgen. Byddai angen eu hystyried yn erbyn yr heriau sylfaenol a'r meini prawf perthnasol, gan gynnwys diogelwch, mynediad, gallu i'w cyflawni, gweithlu, cynaliadwyedd ac effaith. Gall ymgynghori hefyd nodi newidiadau ymarferol neu fesurau lliniaru a allai wella'r cynigion.

4. Beth sy'n cael ei gynnig?

Beth yw'r prif opsiynau o ran iechyd corfforol?

Mae'r ddau opsiwn yn cryfhau gwasanaethau cymunedol ac yn newid cyfluniad gwelyau cleifion mewnol cymunedol. Byddai Opsiwn 1 yn darparu 90 o welyau cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol mewn tair Canolfan Ranbarthol Wledig yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd. Byddai Opsiwn 2 yn darparu 60 o welyau mewn dwy Ganolfan Ranbarthol Wledig yn Aberhonddu a'r Drenewydd. Y bwriad yw bod y gwelyau hyn yn darparu amrywiaeth ehangach o ofal cleifion mewnol, adsefydlu ac adferiad.

Beth yw'r opsiynau gofal brys?

Mae'r ddau opsiwn yn cynnig Canolfannau Gofal Brys gwell yn Aberhonddu a'r Drenewydd ar gyfer amrywiaeth ehangach o afiechydon ac anafiadau brys nad ydynt yn peryglu bywyd, ar yr un diwrnod, ynghyd ag amrywiaeth ehangach o wasanaethau diagnosteg.

Byddai Opsiwn 1 yn cadw Uned Mân Anhwylderau ac Anafiadau yn Llandrindod, a fyddai hefyd yn cynnwys amrywiaeth ehangach o wasanaethau diagnosteg, ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Byddai hefyd yn cynnwys darpariaeth uwchsain heb fod yn obstetreg yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd a mwy o brofion yn y man lle rhoddir gofal ledled Powys.

Yn Opsiwn 2, dim ond y ddwy Ganolfan Gofal Brys yn Aberhonddu a'r Drenewydd fyddai ar gael, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau diagnosteg ar agor 7 diwrnod yr wythnos, ynghyd â gwasanaethau pelydr-X yn Llandrindod 5 diwrnod yr wythnos heb yr Uned Mân Anhwylderau ac Anafiadau. Byddai hefyd yn cynnwys darpariaeth uwchsain heb fod yn obstetreg yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd a mwy o brofion yn y man lle rhoddir gofal ledled y sir.

Byddai'r Unedau Mân Anafiadau presennol yn Ystradgynlais a'r Trallwng yn cau. Byddai darpariaeth pelydr-X a diagnostig hefyd yn newid mewn rhai lleoliadau, gan gynnwys cau gwasanaethau pelydr-X (1 diwrnod yr wythnos) ym Machynlleth.

A fyddai Canolfan Gofal Brys yr un peth ag Adran Argyfwng?

Na. Ni fyddai gan Bowys Adran Argyfwng o hyd. Byddai argyfyngau sy'n peryglu bywyd yn parhau i fod angen 999 ac Adran Argyfwng briodol. Bwriad yr Uned Mân Anhwylderau ac Anafiadau a/neu'r Canolfannau Gofal Brys (UCCs) arfaethedig yw asesu a thrin amrywiaeth ehangach o gyflyrau brys ond nad ydynt yn peryglu bywyd ym Mhowys.

Beth sy'n cael ei gynnig ar gyfer iechyd meddwl?

Nod y cynnig yw cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned i ganolbwyntio ar atal, adferiad a chymorth cynnar. Hefyd, bod gwasanaethau cymunedol, cymorth argyfwng, a gofal cleifion mewnol yn cydweithio'n dda. Mae'r opsiwn yn creu llwybr iechyd meddwl cydgysylltiedig sy'n cynnig dewisiadau amgen i dderbyn cleifion i’r ysbyty, gan ddod â gwasanaethau cleifion mewnol iechyd meddwl swyddogaethol i oedolion a gwasanaethau organig i oedolion hŷn at ei gilydd mewn un Ganolfan Ragoriaeth Iechyd Meddwl 35 gwely yn ardal Bronllys/Aberhonddu.  Y bwriad yw gwella'r amgylchedd therapiwtig, gwydnwch clinigol a chynaliadwyedd y gweithlu wrth leihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen a lleoliadau y tu allan i'r sir. Ni wnaeth unrhyw opsiwn diogel a realistig arall ar gyfer iechyd meddwl oedolion fodloni’r meini prawf ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

A yw'r holl gynigion hyn yn ddibynnol ar ei gilydd?

Nid oes unrhyw gynnig unigol yn gwbl ddibynnol ar gynnig arall. Fodd bynnag, mae rhai o’r manteision disgwyliedig yn dibynnu ar gysylltiadau cryf rhwng gwasanaethau cymunedol, gofal brys, adsefydlu, iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a chefnogaeth y sector gwirfoddol.

5. Gwelyau, ysbytai a gofal yn y cartref

Ai cael gwared ar welyau ysbyty yw hyn?

Na. Yr egwyddor yw symud ein ffocws fel bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu cynllunio o amgylch yr unigolyn a’i anghenion, yn hytrach nag o amgylch adeiladau presennol. Mae hyn yn golygu gofyn ble a sut y gall rhywun dderbyn y gofal gorau, yn hytrach na darparu gofal yn awtomatig mewn ysbyty oherwydd mai dyma lle mae gwasanaethau wedi'u lleoli'n draddodiadol.

Byddai'r ddau opsiwn iechyd corfforol i oedolion yn lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol cymunedol ac yn eu canolbwyntio ar lai o safleoedd. Mae tystiolaeth yn dangos bod cadw gwelyau ar fwy o safleoedd yn ei gwneud hi'n fwy anodd cael staff a chynnal gwasanaethau. Mae hwnnw’n newid arfaethedig sylweddol, gyda gwelyau’n cau ym Mronllys, Llanidloes, Machynlleth, Y Trallwng, Ystradgynlais ac yn ddewisol, Llandrindod o dan Opsiwn 2 ar gyfer iechyd corfforol oedolion. Mae'r cynigion yn seiliedig ar fodel gwahanol lle byddai mwy o bobl yn derbyn gwaith ataliol, ymateb brys, Ysbyty yn y Cartref, adsefydlu ac ailalluogi y tu allan i ward cleifion mewnol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn a all y model hwnnw, ynghyd â'r capasiti cleifion mewnol arfaethedig, ddiwallu anghenion y dyfodol yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Sut allwch chi leihau nifer y gwelyau pan mae'r boblogaeth yn heneiddio?

Mae'r cynigion yn seiliedig ar newid sut a ble mae gofal yn cael ei ddarparu, nid a fydd angen llai o ofal iechyd ar boblogaeth hŷn. Y nod yw ymyrryd yn gynharach, darparu mwy o ofal yn y cartref ac yn y gymuned, lleihau nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty pan gellid osgoi gwneud hyn, byrhau arosiadau diangen yn yr ysbyty a defnyddio gwelyau cleifion mewnol ar gyfer pobl y mae eu hanghenion clinigol yn golygu bod eu hangen arnynt. Mae nifer y gwelyau arfaethedig yn seiliedig ar fodelu galw a chapasiti ehangach. Gall yr ymgynghoriad herio a yw'r capasiti cymunedol a chleifion mewnol arfaethedig yn ddigonol.

Pam mae lleihau amser diangen yn yr ysbyty yn bwysig?

Weithiau, gwely ysbyty yw'r lle mwyaf diogel a phriodol ar gyfer gofal. Fodd bynnag, unwaith nad oes angen y lefel honno o ofal mewnol ar rywun mwyach, gall arhosiad hir diangen yn yr ysbyty gyfrannu at ddatgyflyru, gan gynnwys colli cryfder cyhyrau, symudedd a hyder, yn enwedig i bobl hŷn a phobl sy'n byw gydag eiddilwch. Felly mae osgoi amser diangen yn yr ysbyty yn helpu i leihau colli gweithrediad ac annibyniaeth y gellir ei atal.

Pam canoli gwasanaethau mewn sir wledig fawr?

Mae'r opsiynau'n ceisio cydbwyso mynediad ag ansawdd clinigol, gwydnwch y gweithlu a gwasanaethau cynaliadwy ar draws ardal wledig fawr. Dylai'r ymgynghoriad brofi'r effeithiau ar deithio, cydraddoldeb, cymunedau a thrawsffiniol ac a yw'r mesurau lliniaru arfaethedig yn gredadwy.

A yw gofal yn y cartref yn golygu y bydd disgwyl i deuluoedd a gofalwyr di-dâl wneud mwy?

Ni ddylai olygu trosglwyddo cyfrifoldeb clinigol i deuluoedd yn unig. Mae Ysbyty yn y Cartref, er enghraifft, yn golygu darparu gofal ar lefel ysbyty i gleifion dethol gyda thîm clinigol y GIG yn parhau i fod yn gyfrifol. Fodd bynnag, mae'r effaith ar ofalwyr yn bwysig ac mae angen i'r ymgynghoriad ystyried pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain, sydd â chymorth anffurfiol cyfyngedig neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn mynd yn fwy sâl wrth gael gofal yn y cartref?

Byddai angen i bobl fod yn addas yn glinigol ar gyfer llwybrau gofal yn y cartref a rhaid bod trefniadau clir ar gyfer uwchgyfeirio achosion yn gyflym os bydd eu cyflwr yn gwaethygu. Nid yw gofal yn y cartref wedi'i fwriadu ar gyfer pobl na ellir rheoli eu hanghenion yn ddiogel y tu allan i'r ysbyty.

A fydd gwasanaethau cymunedol yn eu lle mewn gwirionedd cyn i welyau gael eu lleihau?

Mae'r cynigion yn dibynnu ar wasanaethau cymunedol, gweithlu, cyfleusterau a systemau cefnogi cryfach. Byddai cyflymder y gweithredu yn dibynnu ar staffio, cyllid, adeiladau ac argaeledd gwasanaethau cymorth. Byddai angen dangos yr amodau sydd eu hangen ar gyfer newid diogel yn hytrach na'u cymryd yn ganiataol yn unig.

A oes unrhyw ysbytai cymunedol yn cau?

Ni chynigir cau unrhyw safle ysbyty cymunedol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu y byddai pob gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd ym mhob safle yn aros yno. Byddai rôl rhai safleoedd a lleoliad rhai gwasanaethau cleifion mewnol, gofal brys a diagnostig yn newid.

Os bydd gwasanaethau'n symud, beth sy'n digwydd i adeilad yr ysbyty?

Nid yw newid un gwasanaeth yn golygu'n awtomatig bod adeilad yr ysbyty yn cau. Dywed y Bwrdd Iechyd y byddai'n parhau i weithio gyda chymunedau a staff ar rôl safleoedd unigol yn y dyfodol. Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn darparu cynllun gwasanaeth terfynol ar gyfer pob adeilad yn y dyfodol.

Sut allai'r Opsiynau helpu mwy o drigolion Powys i dderbyn gofal o fewn Powys?

Mae Gwella Gyda'n Gilydd yn ceisio gwneud mwy na newid sut mae gwelyau ysbytai cymunedol yn cael eu defnyddio. Mae hefyd yn ceisio darparu mwy o ofal ym Mhowys a helpu pobl i ddychwelyd yn nes at y cartref pan nad oes angen gofal arbenigol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth arnynt mwyach.

Trwy gryfhau gwasanaethau cymunedol a darparu amrywiaeth ehangach o ofal cleifion mewnol, adsefydlu, diagnostig a brys ym Mhowys, y nod yw bod rhai pobl yn derbyn gofal yn lleol neu’n dychwelyd yn nes at y cartref yn gynt pan fydd triniaeth arbenigol mewn man arall wedi'i chwblhau. Byddai angen Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, gofal argyfwng ac arbenigol ar bobl y tu allan i Bowys o hyd pan fo hynny'n briodol yn glinigol.

Pam na all Powys gael ei Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ei hun?

Ni ellir darparu rhai mathau o ofal arbenigol a chymhleth, fel Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, yn ddiogel ym Mhowys. Mae angen timau mawr, offer arbenigol a digon o gleifion ar ysbytai mawr i gadw eu staff medrus iawn. Mae ein Hysbytai Cyffredinol Dosbarth agosaf mewn siroedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr.

6. Teithio, natur wledig a mynediad teg

Oni fydd yn rhaid i rai pobl deithio ymhellach?

Bydd. Byddai rhai opsiynau’n golygu teithiau hirach i rai cleifion, teuluoedd ac ymwelwyr ar gyfer gofal cleifion mewnol, gofal brys neu ddiagnosteg. Nod y model arfaethedig yw cydbwyso hyn yn erbyn mwy o ofal yn y cartref ac yn lleol, gofal brys gwell ym Mhowys a llai o deithiau y gellir eu hosgoi y tu allan i'r sir. Mae effeithiau teithio yn rhan bwysig o'r ymgynghoriad.

  • Opsiwn 1 Iechyd Corfforol - cynnydd yn yr amser teithio cyfartalog o 12 i 24 munud
  • Opsiwn 2 Iechyd Corfforol - cynnydd yn yr amser teithio cyfartalog o 12 i 29.5 munud
  • Iechyd Meddwl - cynnydd yn yr amser teithio cyfartalog o 38 i 65 munud
  • Gofal Brys - cynnydd yn yr amser teithio cyfartalog o 21 i 24 munud neu 29.5 munud yn dibynnu ar yr opsiwn

Beth am bobl nad ydyn nhw'n gyrru neu sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus wael?

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn heriol oherwydd natur wledig a gwasgaredig Powys. Gall materion eraill, gan gynnwys argaeledd ceir, cost, anabledd, cyfrifoldebau gofalu ac amseroedd teithio i gyd effeithio ar fynediad. Mae’r effeithiau ar deithio, cydraddoldeb a materion economaidd-gymdeithasol wedi cael eu hasesu, ond mae adborth ar ymgynghoriadau yn bwysig ar gyfer nodi effeithiau nad yw modelu o bosibl yn eu nodi’n llawn ac ar gyfer datblygu mesurau lliniaru posibl.

Beth am bobl sydd eisoes yn defnyddio gwasanaethau y tu allan i Bowys?

Bydd llawer o drigolion yn parhau i fod angen gwasanaethau acíwt, argyfwng ac arbenigol y tu allan i'r sir, ac nid yw'r ymgynghoriad hwn yn newid y trefniadau presennol gyda darparwyr cyfagos yn uniongyrchol. Mae rhai cymunedau ar y ffin hefyd yn defnyddio gofal brys galw heibio y tu allan i Bowys; mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi na fydd effaith ar y trefniadau hyn.

A fydd yr iaith Gymraeg ac anghenion cydraddoldeb eraill yn cael eu hystyried?

Byddant. Mae'r rhaglen yn cynnwys asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ac asesiadau effaith eraill, gan gynnwys effeithiau ar yr iaith Gymraeg, effeithiau economaidd-gymdeithasol, teithio a chymunedol. Gellir diweddaru'r asesiadau hyn mewn ymateb i dystiolaeth a dderbynnir drwy ymgynghori.

7. Beth allai hyn ei olygu mewn gwahanol rannau o Bowys?

A fydd pob cymuned yn gweld yr un newidiadau?

Na. Y bwriad yw darparu gwasanaethau cymunedol cryfach ledled Powys, ond mae effaith yr opsiynau o ran gofal ysbyty, gofal brys a diagnostig yn amrywio yn ôl ardal. Byddai rhai ardaloedd yn cael amrywiaeth ehangach o wasanaethau gofal cleifion mewnol neu frys; mewn eraill, byddai rhai gwasanaethau sydd wedi'u lleoli mewn ysbytai yn symud. Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnwys gwybodaeth fesul ardal.

Ble fyddai gofal cleifion mewnol cymunedol iechyd corfforol yn cael ei ddarparu?

O dan Opsiwn 1 byddai'n cael ei ddarparu yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd. O dan Opsiwn 2 byddai'n cael ei ddarparu yn Aberhonddu a'r Drenewydd. Mae hyn yn golygu y byddai gwasanaethau cleifion mewnol yn trosglwyddo o rai safleoedd ysbytai cymunedol presennol dros amser os caiff opsiwn ei gymeradwyo.

Pa ardaloedd fyddai’n cael gofal brys gwell?

Mae'r ddau opsiwn gofal brys yn cynnig Canolfannau Gofal Brys gwell yn Aberhonddu a'r Drenewydd. Mae Opsiwn 1 hefyd yn cynnig Uned Mân Anhwylderau ac Anafiadau yn Llandrindod. Byddai trefniadau presennol yr Uned Mân Anafiadau a Phelydr-X yn newid mewn mannau gan gynnwys y Trallwng ac Ystradgynlais, a byddai'r gwasanaeth pelydr-X cyfyngedig ym Machynlleth yn cau.

A yw 'mwy o ofal yn nes at y cartref' yn gwrthdaro â symud rhai gwasanaethau ysbyty ymhellach i ffwrdd?

Mae yna gyfaddawd go iawn. Mae'r cynigion yn diffinio 'yn nes ac y cartref' yn bennaf fel gwasanaethau cartref a chymunedol cryfach a mwy o ofal ym Mhowys, tra byddai rhai gwasanaethau cleifion mewnol, gofal brys a diagnostig yn cael eu canolbwyntio ar lai o safleoedd. I rai pobl gallai hynny olygu llai o deithio yn gyffredinol; i eraill y mae angen iddynt dderbyn y gwasanaethau penodol hynny yn yr ysbyty gallai olygu teithio ymhellach. Bwriad yr ymgynghoriad yw profi'r cydbwysedd hwnnw.

8. Amseru, fforddiadwyedd a chyflenwi

Pryd fyddai unrhyw newidiadau’n digwydd?

Ni fyddai unrhyw newidiadau’n digwydd ar unwaith o ganlyniad i’r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 5 Hydref 2026 a 10 Ionawr 2027, ac mae disgwyl i benderfyniadau gael eu gwneud yn ystod y gwanwyn 2027 ar hyn o bryd. Os caiff newidiadau eu cymeradwyo, byddai gwaith cynllunio manwl yn dilyn a byddai'r trefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn raddol dros sawl blwyddyn. Gallai'r rhaglen lawn gymryd hyd at ddeng mlynedd.

A yw cerrig milltir Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 5 wedi'u gosod?

Na. Maent yn amserlenni dangosol sy'n dangos sut y gallai'r gweithrediad ddatblygu os gwneir penderfyniadau yn ystod y gwanwyn 2027. Nid ydynt yn rhagbennu'r canlyniad a byddent yn addasu yn ôl y penderfyniadau a wneir, adborth yr ymgynghoriadau a'r amodau ymarferol ar gyfer rhoi’r rhaglen ar waith.

A all y Bwrdd Iechyd fforddio'r buddsoddiad sydd ei angen?

Mae'r Achos Busnes Cyn-Ymgynghori yn cynnwys rhagdybiaethau cynllunio a gwerthusiad ariannol, ond byddai costau manwl, llwybrau ariannu a gofynion cyfalaf yn parhau i ddatblygu. Mae rhai cynigion yn dibynnu ar fuddsoddiad mewn gweithlu, capasiti cymunedol, ystadau, offer, systemau digidol neu gyfalaf. Felly mae fforddiadwyedd a’r gallu i gyflawni yn parhau i fod yn rhan o’r broses benderfyniadau.

Beth os na ellir rhoi'r gweithlu neu'r gwasanaethau cymunedol sydd eu hangen ar waith?

Bwriedir i gyflymder a dilyniant y newid ddibynnu ar y gweithlu angenrheidiol, capasiti'r gymuned, seilwaith a threfniadau galluogi eraill sydd ar waith. Os na ellir dangos yr amodau hynny, byddai angen i'r cynllun gweithredu newid yn hytrach na bwrw ymlaen ar y dybiaeth bod y gwasanaethau gofynnol yn bodoli.

9. Cwestiynau am newid staff a gweithlu

A yw'r ymgynghoriad hwn yn penderfynu beth sy'n digwydd i swyddi eich staff?

Nac ydy. Ymgynghoriad ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau yw hwn. Nid yw'n gwneud penderfyniadau am swyddi unigol. Os byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad hwn i gymeradwyo newidiadau i wasanaethau sy’n effeithio ar swyddi a rolau pobl, byddai proses newid sefydliadol ar wahân yn dilyn gyda staff yr effeithir arnynt a chynrychiolwyr y staff o’r undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol, gan ddilyn Polisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan. 

A fydd unrhyw un o'ch staff yn colli eu swyddi?

Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynglŷn ag unrhyw swydd unigol. Os cymeradwyir newidiadau i wasanaethau, y man cychwyn fyddai cadw gwybodaeth, sgiliau a phrofiad staff lle bynnag y bo'n rhesymol bosibl. Byddai cynlluniau manwl ar gyfer y gweithlu yn cael eu datblygu gyda staff ac undebau llafur, a'r bwriad fyddai rheoli newid yn ofalus a cheisio osgoi diswyddiadau gorfodol lle bynnag y bo'n rhesymol bosibl.

A fydd angen i aelodau staff presennol ail-ymgeisio am eu swyddi?

Dydyn ni ddim yn gwybod eto, oherwydd does dim penderfyniadau wedi'u gwneud am swyddi na rolau unigol. Os caiff newidiadau eu cymeradwyo, gall rhai rolau aros yr un fath fwy neu lai, gall rhai newid, ac efallai y bydd cyfleoedd newydd wrth i wasanaethau ddatblygu. Byddai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud drwy broses newid sefydliadol GIG Cymru, gan weithio gyda staff ac undebau llafur.

Sut gall staff ddarparu gwasanaethau cymunedol estynedig pan fo recriwtio’n anodd?

Rydym wedi ystyried yn ofalus a oes gan wahanol syniadau ac opsiynau fodel gweithlu credadwy a realistig. Y dewisiadau a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yw'r rhai a oedd yn bodloni'r profion craidd orau, sef ffactorau fel y gweithlu, ansawdd, canlyniadau, hyfywedd. Roedd hyn yn seiliedig ar y dadansoddiad manwl a nodwyd yn yr Achos Busnes Cyn-Ymgynghori a'i bapurau ategol sy'n disgrifio'r rhagdybiaethau, y dibyniaethau a'r cyfnodau ynghylch y gweithlu. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn darparu llwybr i staff, partneriaid a'r cyhoedd herio'r dystiolaeth a gyflwynir gyda'r papurau a nodi risgiau neu ddewisiadau amgen.

10. Gwneud penderfyniadau ac amseru

Pwy sy'n gwneud y penderfyniad terfynol?

Pan fydd y broses ymgynghori wedi'i chwblhau, bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi'n annibynnol gan Opinion Research Services Ltd. Byddant yn paratoi adroddiad sy'n nodi'r materion a glywyd yn ystod yr ymgynghoriad. Bydd yr adroddiad hwn ynghyd ag unrhyw dystiolaeth newydd a phresennol yn cael eu cyfuno mewn adroddiad mawr a manwl o'r enw achos penderfyniad ôl-ymgynghori. Gelwir y broses hon yn ystyriaeth gydwybodol. Bydd yr achos penderfyniad ar ôl yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys lle bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y camau nesaf.

Pryd fyddwch chi'n penderfynu?

Ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch newid gwasanaeth yn cael ei wneud nes bod y Bwrdd wedi ymgynghori a chwblhau'r broses ystyriaeth gydwybodol yn gyhoeddus. Bydd adborth yn cael ei adolygu'n annibynnol, a bydd y Bwrdd yn ystyried yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud ochr yn ochr â'r dystiolaeth. Y cynllun presennol yw bod hyn yn dod yn ôl gerbron y Bwrdd yn ystod y gwanwyn 2027, ond bydd yr amserlen derfynol yn cael ei chadarnhau a'i chyhoeddi.

Ydy'r penderfyniad wedi'i wneud yn barod?

Nac ydy. Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried. Mae hyn yn cynnwys syniadau newydd, tystiolaeth newydd, neu wybodaeth am yr effeithiau posibl. Rhaid ystyried ymatebion i ymgynghoriadau, cynigion amgen, asesiadau effaith wedi'u diweddaru a thystiolaeth ychwanegol cyn cyflwyno argymhellion a gwneud penderfyniadau.

A fydd deisebau a chyflwyniadau ymgyrchu yn cyfrif?

Bydd pob cyflwyniad ymgynghori perthnasol yn cael ei gofnodi a'i ystyried gan ddefnyddio dull dadansoddi tryloyw. Mae hyn yn cael ei reoli'n annibynnol ar y bwrdd iechyd gan Opinion Research Services, a fydd yn ystyried sut i gofnodi unrhyw gyflwyniadau o'r fath yn unol â'u methodoleg y cytunwyd arni. Wrth bwysoli’r dystiolaeth, nid mater o gyfrif nifer yr ymatebion unfath yw hyn; rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ystyried y sylwedd, yr effeithiau a'r dystiolaeth a gyflwynir. Mae'r broses ymgynghori gyfan yn destun goruchwyliaeth ac adolygiad annibynnol gan HICO. Mae gan Llais, Corff Llais y Dinesydd statudol yng Nghymru, rôl allweddol hefyd gan gynnwys gwneud sylwadau ar faterion y mae'n eu hystyried yn bwysig yn seiliedig ar yr hyn mae wedi'i glywed gan bobl.

Oes gan y Bwrdd Iechyd opsiwn a ffefrir?

Ni nodir unrhyw opsiwn a ffefrir yn y ddogfen ymgynghori. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl ystyried manteision, anfanteision ac effeithiau'r opsiynau ac awgrymu newidiadau neu ddewisiadau eraill.

A fydd y Bwrdd yn gwrando os bydd y cyhoedd yn awgrymu opsiwn gwahanol?

Bydd.

Mae cyflwyno cynigion amgen yn rhan hanfodol o'r ymgynghoriad hwn. Bydd y Bwrdd Iechyd yn eu hystyried yn erbyn yr heriau sylfaenol a'r meini prawf perthnasol, gan gynnwys diogelwch, mynediad, gallu i'w cyflawni, gweithlu, cynaliadwyedd ac effaith. Gall yr ymgynghoriad hefyd nodi newidiadau ymarferol neu fesurau lliniaru a allai wella'r cynigion.

Pryd fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben?

Bwriedir i'r ymgynghoriad gael ei gynnal am 14 wythnos, rhwng 5 Hydref 2026 a 10 Ionawr 2027.

11. Sut i ddweud eich dweud

Beth mae'r Bwrdd Iechyd eisiau i bobl wneud sylwadau amdano?

Rydym am gael barn ynghylch a yw'r cynigion yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau, eu heffeithiau cadarnhaol a negyddol, sut y gellid lleihau effeithiau negyddol, ac a oes syniadau neu ddewisiadau amgen ymarferol eraill. Mae tystiolaeth ac enghreifftiau ymarferol yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd gallant helpu i brofi rhagdybiaethau a gwella asesiadau effaith.

A allaf gefnogi cyfeiriad y daith ond anghytuno â rhan o opsiwn?

Gallwch. Nid dim ond dewis rhwng cefnogi neu wrthwynebu'r rhaglen gyfan yw ymgynghori. Gallwch ddweud pa elfennau rydych chi'n eu cefnogi, pa rai sy'n peri pryder i chi, pam, a beth rydych chi'n meddwl ddylai newid. Gallwch hefyd awgrymu mesurau lliniaru neu ddulliau amgen.

A fydd adborth yr ymgynghoriad yn newid unrhyw beth mewn gwirionedd?

Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud. Bydd ymatebion, cynigion amgen, asesiadau effaith wedi'u diweddaru a thystiolaeth ychwanegol yn cael eu hystyried cyn gwneud argymhellion a phenderfyniadau. Pwrpas ymgynghori yw profi a llywio'r cynigion, nid cyfleu penderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud.

Beth sy'n gwneud adborth yn fwyaf defnyddiol?

Eglurwch beth yn eich barn chi fyddai'n gweithio neu ddim yn gweithio a pham. Lle bo modd, rhowch enghreifftiau, tystiolaeth neu brofiad ymarferol; disgrifiwch pwy fyddai’r cynigion yn gallu effeithio arno a sut; nodwch ganlyniadau anfwriadol; ac awgrymwch ddewis arall neu ffordd o leihau'r effaith. Mae adborth cadarnhaol yn ddefnyddiol hefyd—os ydych chi'n meddwl y byddai rhywbeth yn gwella gofal, esboniwch pa fudd rydych chi'n ei ddisgwyl a pham.