Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gofyn am eich barn ar opsiynau ar gyfer dyfodol gofal cymunedol y GIG gan gynnwys gofal brys a diagnosteg, a gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol i oedolion.
Rydym yn cynnal digwyddiadau ledled y sir o fis Hydref 2026 i fis Ionawr 2027. Bydd ein digwyddiadau yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â staff y bwrdd iechyd, dysgu mwy am yr opsiynau, gofyn cwestiynau a chwblhau ein holiadur.
Rhwng 5 Hydref 2026 a 10 Ionawr 2027, rydym yn annog pawb i gwblhau ein holiadur ymgynghori. Gallwch hefyd fynychu un o'n digwyddiadau galw heibio neu ddigwyddiadau ar-lein i ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a thrafod y newidiadau cyn rhannu eich barn.
Mae ein digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dechrau am 2pm ac yn gorffen am 7pm. Galwch heibio unrhyw amser sy'n addas i chi.
Dydd Mercher 14 Hydref 2026 – Neuadd y Strand, Llanfair-ym-Muallt LD2 3AA
Iau 15 Hydref 2026 – Y Plas, Machynlleth SY20 8ER
Dydd Llun 19 Hydref 2026 – Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd LD7 1DR
Dydd Mercher 21 Hydref 2026 – Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanfyllin SY22 5DB
Dydd Mawrth 27 Hydref 2026 – Neuadd Clarence, Crucywel NP8 1BN
Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2026 – Canolfan Gymunedol Llanidloes SY18 6EY
Dydd Iau 5 Tachwedd 2026 – Gwesty Wellington, Aberhonddu, LD3 7AD
Dydd Mawrth 10 Tachwedd 2026 – Y Pafiliwn, Llandrindod LD1 5EY
Dydd Iau 12 Tachwedd 2026 – Neuadd y Dref Talgarth LD3 0AF
Dydd Iau 19 Tachwedd 2026 – Yr Institiwt, Llanfair Caereinion SY21 0RY
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026 – Neuadd Les y Glowyr, Ystradgynlais SA9 1JJ
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 – Neuadd y Dref, Y Trallwng SY21 7JQ
Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026 – Gwesty’r Elephant & Castle, Y Drenewydd SY16 2BQ
Cynhelir y digwyddiadau ar-lein rhwng 6.30pm ac 8pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Iau 29 Hydref 2026
Dydd Llun 7 Rhagfyr 2026
Dydd Iau 7 Ionawr 2027
Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu hwyluso'n annibynnol gan HICO.
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau ar-lein gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Defnyddiwch y botwm newid iaith i weld y ffurflen Gymraeg neu cliciwch yma i fynd syth i'r ffurflen Gymraeg.
Bydd archebion ar gyfer pob digwyddiad ar-lein yn cau ddau ddiwrnod gwaith cyn y sesiwn. Cofrestrwch erbyn y dyddiad cau hwn i dderbyn eich cyfarwyddiadau ymuno.