Rydym yn eich annog i gwblhau'r holiadur ar-lein lle bo'n bosibl. Y dyddiad cau i ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl, fel y gellir cynnwys eich barn yn y ymgynghoriad, yw 10 Ionawr 2027. Gallwch wneud hyn drwy:
I helpu gyda hygyrchedd gallwch hefyd ddarllen yr holiadur ymgynghori isod.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig cyflwyno newidiadau i wasanaethau iechyd corfforol ac iechyd meddwl i oedolion yn y gymuned, a gwasanaethau gofal brys a diagnostig i oedolion a phlant ym Mhowys.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i gael adborth gan yr holl randdeiliaid. Cyn ateb yr holiadur hwn, darllenwch y ddogfen ymgynghori gysylltiedig yn Gwella Gyda'n Gilydd, neu gallwch wneud cais am gopi drwy e-bostio powys.gwellagydangilydd@wales.nhs.uk neu ffonio 01874 442917.
Yn yr ymgynghoriad hwn, mae’r Bwrdd Iechyd am glywed:
Caiff prif faterion yr ymgynghoriad eu crynhoi yn yr holiadur hwn i’ch helpu i ateb y cwestiynau. Gallwch weld y ddogfen ymgynghori lawn, yn ogystal â gwybodaeth fanylach, data ategol a dadansoddiadau yn Gwella Gyda'n Gilydd. Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn cynnwys rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr holiadur.
Llenwch yr holiadur ar-lein yn Gwella Gyda'n Gilydd neu gallwch ddychwelyd y fersiwn bapur hon i’r cyfeiriad RHADBOST a welir ar waelod y dudalen olaf, erbyn 10 Ionawr 2027.
Bydd yr holiaduron cyflawn yn cael eu prosesu gan Opinion Reseach Services (ORS), sy’n gwmni ymchwil annibynnol a benodwyd i reoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ran y Bwrdd Iechyd. Bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data diweddaraf ac yn cael ei dinistrio ymhen blwyddyn ar ôl gwneud y penderfyniadau terfynol.
Yn yr adroddiadau, bydd adborth gan unigolion yn gwbl ddienw, ond gellir priodoli barn sefydliadau neu bobl sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd. Gall ORS ddefnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial awtomataidd gyda goruchwyliaeth ddynol er mwyn helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r cwestiynau testun rhydd, ac felly dylech sicrhau nad ydych yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn yr atebion hyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i biap.gig.cymru/preifatrwydd a www.ors.org.uk/hysbysiad-preifatrwydd.
Pa rai o’r canlynol sy’n berthnasol i chi? (TICIWCH BOB UN SY’N BERTHNASOL)
Mae rhaglen ‘Gwella gyda’n Gilydd’ y Bwrdd Iechyd yn ceisio datblygu cynllun a fydd yn diwallu anghenion cymunedau Powys yn well yn y dyfodol. Mae’r adborth y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i gael yn dangos bod pobl eisiau ymyrraeth cynharach, gwasanaethau cymunedol cryfach, a mwy o gymorth yn y cartref.
Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd yw creu gwasanaeth iechyd sy’n helpu pobl i aros yn iach ac yn annibynnol yn hirach, sy’n darparu gofal yn nes at y cartref lle bynnag y bo modd, ac sy’n sicrhau bod gofal arbenigol ar gael pan fydd ei angen. Mae’r model arfaethedig ar gyfer y dyfodol hefyd yn ceisio cryfhau gweithio cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dyma’r amcanion:
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â gweledigaeth y Bwrdd Iechyd? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Os hoffech chi rannu rhagor o sylwadau am y weledigaeth, defnyddiwch yr adran “Sylwadau Eraill” yn nes ymlaen yn yr holiadur hwn.
Darllenwch yr adran berthnasol yn y ddogfen ymgynghori
Mae gwasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd yn wynebu heriau sylweddol:
• Mae pobl yn byw’n hirach nag erioed o’r blaen. Mae hyn i’w groesawu wrth gwrs, ond mae hefyd yn golygu bod mwy o bobl yn byw gyda nifer o gyflyrau hirdymor, eiddilwch ac anghenion iechyd corfforol a meddyliol cymhleth.
• Gan ystyried hynny, mae’r galw am ofal iechyd yn cynyddu, sy’n rhoi pwysau ar staff a gwasanaethau. Ar yr un pryd, mae cyfran y bobl o oedran gweithio yn gostwng. Mae recriwtio a chadw’r gweithlu angenrheidiol i gynnal gwasanaethau ar eu ffurf bresennol yn mynd yn anoddach.
• Mae gwahaniaethau annerbyniol yn ansawdd a diogelwch gwasanaethau, a bydd y sefyllfa hon yn gwaethygu os na chymerir camau.
• Mae angen dybryd i ganolbwyntio ar wasanaethau atal ac iechyd y cyhoedd er mwyn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd.
Rhaid i’r ffordd y mae’r Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael â’r heriau hyn ystyried natur unigryw Powys a’r cyfleusterau iechyd yn y sir:
• Dyma’r bwrdd iechyd lleiaf yn ôl poblogaeth, ond un o’r rhai mwyaf yn ôl ardal ddaearyddol, sy’n golygu bod llawer o wasanaethau wedi’u gwasgaru’n denau ar draws nifer o ysbytai cymunedol bach, heb wasanaethau acíwt.
• O ystyried poblogaeth wasgaredig Powys, ni fyddai adeiladu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth newydd yn y sir yn opsiwn ymarferol.
• Mae adnoddau staff wedi’u gwasgaru’n denau ar draws timau bach ar nifer o safleoedd. Gall fod yn anodd cynnal gwasanaethau yn ystod cyfnodau o absenoldeb staff a phan fydd swyddi heb eu llenwi. Mae’r model gwasanaeth presennol hefyd yn rhy ddibynnol ar staff asiantaeth drud.
• Mae gan y Bwrdd Iechyd adeiladau sy’n heneiddio y mae angen eu cynnal a’u cadw neu eu moderneiddio. Mae angen iddo hefyd gymryd camau i gadw dau pen llinyn ynghyd. Roedd diffyg ariannol o £33 miliwn ar ddiwedd 2025/26.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu bod yn rhaid ailgynllunio gwasanaethau iechyd i fynd i’r afael â’r heriau hyn a sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod angen i’r Bwrdd Iechyd wneud newidiadau i ymateb i’r heriau hyn? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Os hoffech chi rannu rhagor o sylwadau am yr achos dros newid, defnyddiwch yr adran “Sylwadau Eraill” yn nes ymlaen yn yr holiadur hwn.
O ganlyniad i’r heriau hyn, ac er mwyn helpu i gyflawni ei weledigaeth, mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynigion sy’n effeithio ar y meysydd gwasanaeth canlynol: gwasanaethau iechyd corfforol i oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, gofal brys (gan gynnwys mân anafiadau) a diagnosteg (fel pelydr-x).
Mae’r adran isod yn disgrifio’n fyr y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau, cyn egluro’r newidiadau arfaethedig i’r model gofal a chyflwyno’r opsiynau penodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwella Gyda'n Gilydd.
Cafodd opsiynau eraill eu diystyru gan nad oeddent yn bodloni meini prawf fel ansawdd a diogelwch, mynediad, materion y gweithlu, fforddiadwyedd, neu gan eu bod yn llai tebygol o gyflawni’r lefel o newid y mae’r Bwrdd Iechyd yn credu sydd ei hangen. Os hoffech ddarllen mwy am yr opsiynau eraill hyn a’r rhesymau pam na chawsant eu datblygu ymhellach, ewch i Gwella Gyda'n Gilydd.
Darllenwch yr adran berthnasol yn y ddogfen ymgynghori
Ar hyn o bryd, mae Powys yn cynnal rhwydwaith o ysbytai cymunedol a gwasanaethau yn y gymuned ledled y sir. Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys adsefydlu, gofal cam-i-fyny a gofal cam-i-lawr, cymorth adfer, a gofal cleifion mewnol i bobl nad oes angen eu trin mewn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth.
Ochr yn ochr â thimau cymunedol sy’n darparu gofal yn y cartref ac yn y gymuned leol, mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu 146 o welyau cleifion mewnol ledled y sir. Mae gwasanaethau iechyd corfforol presennol i oedolion sy’n gleifion mewnol ym Mhowys yn cynnwys Aberhonddu (Ward Epynt, Ward y Bannau), Bronllys (Ward Llewelyn), Llandrindod (Ward Claerwen), Llanidloes (Ward Graham Davies), Machynlleth (Ward Twymyn), Y Drenewydd (Ward Brynheulog), Y Trallwng (Ward Maldwyn) ac Ystradgynlais (Ward Adelina Patti). At hynny, mae gwelyau ailalluogi ar gael yn Ysbyty Trefyclo a Chanolfan Iechyd a Gofal Integredig Glan Irfon yn Llanfair-ym-Muallt.
Mae’r galw am ofal iechyd corfforol yn parhau i gynyddu, ac mae gormod o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty am resymau y gellid eu hatal pe bai gwahanol wasanaethau ar gael yn y cartref. Hefyd, mae gormod o bobl yn treulio gormod o amser yn yr ysbyty, sy’n gallu arwain at ddirywiad corfforol oherwydd anweithgarwch.
Mae’r model gofal arfaethedig yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai pobl gael gofal gartref lle bynnag y bo modd, ond gan sicrhau hefyd bod gwasanaethau cleifion mewnol yn parhau i fod ar gael yn y sir pan fydd eu hangen. Byddai gwelliannau i wasanaethau cymunedol yn golygu bod modd diwallu anghenion mwy o bobl gartref, gan leihau’r angen i gleifion gael eu derbyn i’r ysbyty ym Mhowys neu’r tu allan i’r sir.
Yn benodol, mae’r model arfaethedig yn ceisio:
Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu y gallai mwy o bobl gael gwell gofal iechyd yn y lleoliad iawn drwy fuddsoddi mewn darparu mwy o wasanaethau gartref. Mae hyn yn cynnwys Cymorth Cymunedol Brys ar gyfer asesiadau cyflym; ac Ysbyty yn y Cartref ar gyfer triniaeth lefel ysbyty.
I alluogi’r manteision uchod, mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig y dylid atgyfnerthu’r gofal i gleifion mewnol mewn ysbytai cymunedol, ac yn y dyfodol y dylid gweithredu o ddau neu dri ysbyty gydag unedau cleifion mewnol gwell. Byddai’r rhain yn cynnig triniaethau nad ydynt ar gael yn gyson ym Mhowys ar hyn o bryd, fel therapi mewnwythiennol (IV) a maeth nasogastrig (h.y. bwydo person drwy diwb bach yn ei drwyn).
Mae’r Bwrdd Iechyd o’r farn bod yr ysbytai cymunedol presennol yn rhy fach i sicrhau’r cymysgedd cywir o staff sydd â’r sgiliau cywir, ac y gellid cynnig gwell gofal pe bai gwelyau’n cael eu darparu ar lai o safleoedd. Teimlir y byddai hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddatblygu a chynnal sgiliau staff, gan ganiatáu darparu mwy o ofal yn y sir a lleihau’r angen i gleifion gael eu trin mewn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth y tu allan i Bowys.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu hefyd y byddai’r model arfaethedig yn cynnig dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl, yn enwedig ar gyfer pobl eiddil, pobl â dementia a phobl â chyflyrau hirdymor cymhleth.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r model gofal arfaethedig ar gyfer gwasanaethau iechyd corfforol i oedolion? (TICIWCH uN BLWCH YN UNIG
Mae dau opsiwn ar y bwrdd ar gyfer gofal iechyd corfforol i gleifion mewnol.
Mae’r ddau opsiwn yn cynnwys cryfhau gwasanaethau cymunedol yng nghartrefi pobl a rhoi mwy o ffocws ar iechyd ataliol; ehangu nyrsio ardal, adsefydlu, ailalluogi, atal codymau a chymorth Ysbyty yn y Cartref; yn ogystal â mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd corfforol ac iechyd meddwl (e.e. i gefnogi pobl â dementia sydd hefyd ag anghenion iechyd corfforol). Byddent hefyd yn cynnal ansawdd gwasanaethau a chynaliadwyedd y gweithlu; yn ceisio lleihau’r angen i gleifion fynd i Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y tu allan i’r sir; ac yn caniatáu i bobl gael eu cefnogi’n fwy effeithiol gartref.
O dan y ddau opsiwn, byddai gwelyau cleifion mewnol ar gyfer cleifion ag anghenion iechyd corfforol yn cau yn Ysbytai Cymunedol Bronllys, Llanidloes, Machynlleth, y Trallwng ac Ystradgynlais. Byddai Canolfan Iechyd a Gofal Integredig Glan Irfon a Cottage View yn Ysbyty Trefyclo yn parhau i ddarparu gofal preswyl.
Y prif wahaniaeth rhwng yr opsiynau yw y byddai Opsiwn 2 yn darparu mwy o wasanaethau yng nghartrefi pobl nag Opsiwn 1, tra byddai gan Opsiwn 1 fwy o safleoedd a gwelyau i gleifion mewnol. Mae Opsiwn 2 yn fwy fforddiadwy nag Opsiwn 1. Fodd bynnag, mae Opsiwn 2 yn dibynnu ar allu’r Bwrdd Iechyd i ddarparu lefel uwch o ofal yn y cartref nag Opsiwn 1; ac oherwydd na fyddai gwelyau i gleifion mewnol yn Llandrindod mwyach, byddai mwy o gleifion yng nghanol Powys yn gorfod teithio ymhellach i gyrraedd safle cleifion mewnol.
Pe bai cleifion mewnol yn derbyn gwasanaethau gofal corfforol i oedolion ar lai o safleoedd, pa un o’r opsiynau canlynol ydych chi’n credu sy’n cyflawni’r weledigaeth orau ac sy’n ymateb i’r achos dros newid? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Os oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynigion ar gyfer gwasanaethau iechyd corfforol i oedolion, ysgrifennwch y rhain isod. Gallai’r rhain gynnwys:
Darllenwch yr adran berthnasol yn y ddogfen ymgynghori
Mae gwasanaethau gofal iechyd brys ar gyfer oedolion a phlant sydd angen asesiad, triniaeth neu gyngor ar yr un diwrnod, ond nad yw eu bywyd mewn perygl. Caiff gwasanaethau gofal brys ym Mhowys eu darparu drwy Bractisiau Cyffredinol, 111 GIG Cymru, Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau optometreg, gwasanaethau deintyddiaeth, gwasanaethau mân anafiadau gan feddygon teulu sy’n rhan o’r cynllun, a phedair Uned Mân Anafiadau yn Aberhonddu, Llandrindod, y Trallwng ac Ystradgynlais.
Mae’r galw am ofal brys yn parhau i gynyddu wrth i bobl fyw’n hirach, yn aml gydag anghenion iechyd mwy cymhleth. Ar yr un pryd, mae gwasanaethau iechyd yn profi pwysau sylweddol ar y gweithlu ac anhawster cynyddol i recriwtio staff sydd â sgiliau arbenigol. Mae argaeledd gwasanaethau diagnostig hefyd yn amrywio ar draws y sir ac nid yw’n cyfateb cystal ag y gallai i oriau agor gwasanaethau gofal brys.
Nod y model gofal arfaethedig yw sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. Mae’r ffocws ar wella mynediad at asesiadau a thriniaethau brys, ar leihau’r niferoedd sy’n mynd i adrannau brys y tu allan i’r sir heb fod angen, ac ar gefnogi cysylltiadau cryfach rhwng gofal brys, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty.
Yn benodol, mae’r model arfaethedig yn ceisio:
Felly, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig y dylid cyfuno Unedau Mân Anafiadau a gwasanaethau diagnostig a’u cynnal mewn dau neu dri ysbyty yn y dyfodol, fel y gellir eu huwchraddio i Ganolfannau Gofal Brys neu i Unedau Mân Anafiadau ac Anhwylderau i gyflawni’r manteision uchod. Byddent yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaeth ymateb cymunedol brys newydd, a fyddai’n gallu gweld pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Ar hyn o bryd, mân anafiadau yn unig y mae’r Unedau Mân Anafiadau yn eu trin; ni allant ddarparu gofal na thriniaeth ar gyfer salwch ac anhwylderau. Ar y llaw arall, byddai Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau yn cynnig gofal brys ehangach drwy ddarparu clinigwyr sydd â sgiliau gofal brys uwch neu well; profion neu ymchwiliadau ar yr un diwrnod lle bo hynny’n briodol; mynediad at belydr X; a thriniaethau a allai leihau’r angen i deithio i Adran Achosion Brys.
Ni fyddai fawr o newid yn y rhwydwaith ehangach o wasanaethau gofal brys (e.e. meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, gofal llygaid), er y byddai’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ystyried opsiynau i ddarparu mwy o wasanaethau mân anafiadau yn yr ardaloedd hynny lle mae’r Uned Mân Anafiadau yn cau.
Byddai canolbwyntio gwasanaethau gofal brys ar lai o safleoedd ysbytai cymunedol hefyd yn caniatáu i staff clinigol weithio’n agosach â’i gilydd a gweld mwy o gleifion. Byddai hyn wedyn yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau, hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, a datblygiad proffesiynol.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r model gofal arfaethedig ar gyfer gwasanaethau gofal brys? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Nodwyd bod dau opsiwn yn ymarferol bosibl.
Byddai’r ddau opsiwn yn cynyddu lefel yr asesiadau, y diagnosis a’r triniaethau gofal brys sydd ar gael yn y sir. Er y byddai’r ddau opsiwn yn golygu teithiau hirach i rai cleifion, mae’r dadansoddiadau’n awgrymu y gallai rhai pobl sydd ar hyn o bryd yn mynd i Adrannau Achosion Brys y tu allan i Bowys gofal o fewn y sir yn lle hynny.
Ni fyddai’r Uned Mân Anafiadau ac Anhwylderau yn Llandrindod (sydd wedi’i chynnwys yn Opsiwn 1, ond nid Opsiwn 2) yn darparu’r un lefel o wasanaeth â Chanolfan Gwasanaethau Brys, ond byddai’n cynnig mwy o asesiadau a thriniaethau ar gyfer salwch o’i gymharu â’r Unedau Mân Anafiadau presennol. Felly, byddai opsiwn 1 yn cynnal mwy o fynediad lleol at ofal brys yng nghanol Powys, ond byddai angen mwy o fuddsoddiad ar gyfer hynny (ac felly’n gadael llai o adnoddau i fuddsoddi mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol eraill i gefnogi anghenion gofal brys). Byddai Opsiwn 2 yn canoli gofal brys yn Aberhonddu a’r Drenewydd gyda’r angen am lai o fuddsoddiad, ond byddai angen i fwy o bobl deithio ymhellach i gael mynediad ato.
Pe bai gwasanaethau gofal brys yn cael eu darparu ar lai o safleoedd, pa un o’r opsiynau canlynol ydych chi’n credu sy’n cyflawni’r weledigaeth orau ac sy’n ymateb i’r achos dros newid? TICIWCH UN BLWCH YN UNIG
Os oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynigion ar gyfer gwasanaethau gofal brys, ysgrifennwch y rhain isod. Gallai’r rhain gynnwys:
Darllenwch yr adran berthnasol yn y ddogfen ymgynghori
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys yn cael eu darparu drwy gyfuniad o ofal sylfaenol, timau cymunedol, gwasanaethau cleifion allanol, cymorth mewn creisis, a gwasanaethau cleifion mewnol. Ochr yn ochr â hyn, gall pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl dderbyn gwasanaethau mwy arbenigol gan ddarparwyr y tu allan i’r sir. Pan fydd angen darpariaeth gofal cleifion mewnol, mae 38 gwely ar gael mewn tri lleoliad: Bronllys, Llandrindod ac Ystradgynlais.
Mae’r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn parhau i gynyddu, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn cael trafferth recriwtio a chadw staff arbenigol. Mae hyn yn golygu y gall unedau cleifion mewnol bach ei chael yn anodd cynnal lefelau staffio cynaliadwy. Ar ben hynny, mae gormod o gleifion yn gorfod teithio allan o Bowys i gael gofal arbenigol; ac nid oes digon o ddewisiadau eraill yn hytrach na’r ysbyty ar gael i bobl sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl, na chwaith digon o gymorth cam-i-lawr i bobl sy’n barod i adael gofal fel claf mewnol ond sydd angen rhagor o gymorth cyn dychwelyd yn llawn i’r gymuned.
Mae pobl wedi dweud wrth y Bwrdd Iechyd eu bod eisiau mynediad haws at gymorth, ymyrraeth gynharach, a gwasanaethau sydd wedi’u cysylltu’n well ac sy’n haws eu deall. Mae llawer hefyd eisiau mwy o gymorth yn nes at adref a llai o sefyllfaoedd lle mae problemau’n troi’n argyfwng cyn bod cymorth ar gael. Felly, mae’r model gofal arfaethedig ar gyfer y dyfodol wedi cael ei lunio i gynnig gofal cydgysylltiedig sy’n cefnogi pobl ar wahanol gamau o angen. Y nod yw sicrhau bod cymorth ar gael cyn gynted â phosibl, gan helpu pobl i gadw’n iach, osgoi argyfwng, a chael gofal yn y lleoliadau priodol.
Yn benodol, mae’r model arfaethedig yn ceisio:
• Helpu pobl i aros yn iach ac yn annibynnol drwy hyrwyddo llesiant meddyliol, lleihau stigma, a galluogi cymorth ataliol cynnar drwy deuluoedd, ysgolion, cymunedau, gweithleoedd a sefydliadau gwirfoddol.
• Darparu help yn gynnar a chymorth rhagweithiol, gan gynnwys drwy wneud gwell defnydd o 111 GIG Cymru Pwyso 2 i helpu pobl i gyrraedd y gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn, gan uwchgyfeirio i dimau argyfwng neu drwy gyfeirio at wasanaethau cymunedol.
• Darparu gofal a chymorth yn y cartref ac yn y gymuned, er enghraifft gan Dimau Trin Dementia yn y Cartref, Timau Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion Hŷn, a chymorth dwys yn y gymuned.
• Sicrhau cymorth arbenigol yn y gymuned - gan gynnwys cynnig noddfa a mannau diogel i bobl mewn trallod uniongyrchol - ac ymyrraeth a chymorth byrdymor.
• Canoli gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol ar un safle, gan greu canolfan ragoriaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl - a gyda wardiau iechyd corfforol sy’n gallu gofalu am rai cleifion gydag anghenion iechyd corfforol a meddyliol.
Petai gwasanaethau cleifion mewnol yn cael eu cyfuno mewn un ganolfan ragoriaeth, ni fyddai gwelyau iechyd meddwl yn cael eu darparu mewn lleoliadau eraill yn y dyfodol, a byddai’n rhaid i rai pobl sydd angen gofal fel claf mewnol deithio tipyn pellach. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Iechyd o’r farn y byddai dwyn gwasanaethau at ei gilydd yn caniatáu i ystod ehangach o weithwyr proffesiynol arbenigol gydweithio’n agosach fel tîm amlddisgyblaethol, gan wella mynediad at gymorth asesu, triniaeth, adsefydlu ac adfer. Byddai hyn hefyd yn galluogi ehangu gwasanaethau cymorth mewn creisis, ymyrraeth gynnar, adsefydlu ac adfer, a gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned. Nod y Bwrdd Iechyd yw helpu mwy o bobl i gael cymorth yn gynt, i osgoi cael eu derbyn i’r ysbyty lle bo hynny’n bosibl, ac os ydynt yn cael eu derbyn i’r ysbyty yna eu bod yn cael dod adref yn gynt.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r model gofal arfaethedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Yn dilyn adolygiad manwl ac arfarniad o’r opsiynau (gweler “Syniadau a Ystyriwyd” yn adran Iechyd Meddwl y ddogfen ymgynghori am fanylion), mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig, petai un ganolfan ragoriaeth iechyd meddwl yn cael ei chreu yn unol â’r model arfaethedig, y dylai hon fod yn ardal Bronllys/Brycheiniog gyda 35 gwely i gleifion mewnol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu mai dyma’r unig opsiwn y gellid ei gyflwyno’n ymarferol ac yn fforddiadwy, ac y gellid ei staffio’n ddigonol ac yn gynaliadwy oherwydd natur wledig Powys.
Byddai’r un ganolfan ragoriaeth hon yn cael ei chefnogi gan wasanaethau cymunedol cryfach gyda’r nod o leihau’r angen dros fynd i’r ysbyty naill ai y tu mewn neu’r tu allan i’r sir; byddai’n cynnig un pwynt mynediad gwell; a ‘gwasanaeth noddfa’ newydd i gefnogi pobl mewn argyfwng, a ddarperir o ddau leoliad, un yng ngogledd Powys a’r llall yn ne’r sir.
O dan y cynnig hwn, ni fyddai gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol yn cael eu darparu mwyach yn Ystradgynlais nac yn Llandrindod, a byddai cleifion sydd angen aros yn yr ysbyty yn cael gofal yn ardal Bronllys/Brycheiniog.
Pe bai un ganolfan ragoriaeth yn cael ei sefydlu i ddarparu gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol, i ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid ei lleoli yn ardal Bronllys/Brycheiniog? (TICIWCH UN BLWCH YN UNIG)
Os oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynigion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, ysgrifennwch y rhain isod. Gallai’r rhain gynnwys:
A oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach? Gallai hyn gynnwys sylwadau ar y canlynol:
Mae gan y GIG ddyletswydd i ystyried effaith penderfyniadau ar hawliau dynol a phobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, a chyfeiriadedd rhywiol) a rhaid iddo hefyd gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
A oes unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y dylid eu hystyried, yn eich barn chi, mewn perthynas â chydraddoldeb, hawliau dynol neu’r Gymraeg? Os felly, allwch chi ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol ac awgrymu unrhyw ffyrdd y gallai’r sefydliad leihau neu ddileu unrhyw effeithiau negyddol posibl a chynyddu unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Os ydych chi’n ymateb ar ran SEFYDLIAD neu yn rhinwedd rôl swyddogol, pa sefydliad ydych chi’n ei gynrychioli/pa swyddogaeth? Lle bo’n berthnasol, rhowch deitl y rôl swyddogol, neu enw’r sefydliad ac unrhyw grŵp neu adran benodol. Dywedwch wrthym hefyd pwy mae’r sefydliad yn ei gynrychioli, pa ardal y mae’r sefydliad yn ei gwasanaethu a sut y gwnaethoch gasglu barn yr aelodau. Rhowch yr ateb yn y blwch isod a pharhau ar dudalenarall os oes angen.
Os ydych chi’n darparu eich YMATEB PERSONOL eich hun, atebwch y cwestiynau isod.
Mae gan y GIG ddyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb ac mae angen sicrhau ein bod yn cynnwys pob rhan o’r gymuned yn yr ymgynghoriad, ond does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn. Byddwn yn ystyried pob ymateb yn llawn, ni waeth a fyddwch yn rhoi eich manylion ai peidio.
Beth yw eich cod post llawn? Bydd hyn yn ein helpu i ddeall safbwyntiau pobl o wahanol ardaloedd
TICIWCH UN BLWCH YN UNIG AR GYFER POB CWESTIWN ONI NODIR YN WAHANOL
Faint oedd eich oed chi ar eich pen-blwydd diwethaf?
O dan 25
25 i 34
35 i 44
45 i 54
55 i 64
65 i 74
75+
Mae’n well gen i beidio â dweud
Ydych chi yn?
Dyn
Menyw
Mae’n well gen i roi fy nisgrifiad fy hun
Mae’n well gen i beidio â dweud
Ydych chi’n cael trafferth â gweithgareddau dyddiol oherwydd anabledd neu broblem iechyd sydd wedi para, neu mae disgwyl iddo bara, o leiaf 12 mis (gan gynnwys problemau'n ymwneud â henaint)?
Ydw, llawer o drafferth
Ydw, rhywfaint o drafferth
Na
Mae’n well gen i beidio â dweud
A oes gennych chi unrhyw blant dibynnol o dan 18 oed?
Oes
Na
Mae’n well gen i beidio â dweud
Ydych chi’n rhoi cymorth i unrhyw aelod o’r teulu, ffrind, cymydog neu rywun arall oherwydd salwch/anabledd corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy’n ymwneud â henaint?
Ydw
Na
Mae’n well gen i beidio â dweud
Beth yw eich grŵp ethnig?
Gwyn
Grŵp ethnig cymysg neu aml-ethnig
Asiaidd neu Asiaidd Brydeinig
Du, Affricanaidd, Caribïaidd neu Ddu Prydeinig
Unrhyw grŵp ethnig arall
Mae’n well gen i beidio â dweud
Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg? TICIWCH BOB UN SY’N BERTHNASOL
Deall Cymraeg llafar
Siarad Cymraeg
Darllen Cymraeg
Ysgrifennu’n Gymraeg
Dim un o’r uchod
Mae’n well gen i beidio â dweud
Rydym yn eich annog i gwblhau'r holiadur ar-lein lle bo'n bosibl. Y dyddiad cau i ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl, fel y gellir cynnwys eich barn yn y ymgynghoriad, yw 10 Ionawr 2027. Gallwch wneud hyn drwy: