Neidio i'r prif gynnwy

Mannau Cymunedol ac Iechyd Gwyrdd

Blodau gwyllt yn Ysbyty Bronllys

Rydyn ni gyd yn gwybod bod awyr iach a gwneud ymarfer corff yn dda i'n lles corfforol a meddyliol. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod hyn yn wir.

Trwy wella ansawdd ein hamgylchedd naturiol a chynyddu mynediad pobl at fannau gwyrdd a glas, gallwn wella ein hiechyd a gofalu am y blaned.  

Mae'r term man gwyrdd yn cyfeirio at lefydd fel parciau, gerddi, coetiroedd a gweirgloddiau – gan gynnwys tirweddau naturiol, lled-naturiol ac adeiledig. Yn aml, cyfeirir at amgylcheddau naturiol ger dŵr fel afonydd, nentydd, llynnoedd, pyllau, camlesi a'r arfordir fel mannau glas. 

Mae gofalu am ein hecosystemau naturiol yn hanfodol wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd, a'r effaith sy'n deillio o hynny ar iechyd pobl. 

Bydd gwella'r mannau gwyrdd o amgylch ein safleoedd cymunedol ac ysbytai yn dod â manteision i staff, cleifion, ymwelwyr a'r gymuned leol drwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn aml yn "bresgripsiynu gwyrdd" fel y mabwysiadwyd gan Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. 

Grŵp llywio BIAP i ddatblygu gweithdrefn, llywodraethu a phroses gymeradwyo ar gyfer cyflwyno a datblygu grwpiau cymunedol ar safle BIAP. Cyfle i bartneriaid gymryd rhan fel Cyngor Sir Powys a PAVO.

Mae'r grŵp yn cyfarfod bob yn ail fis ac yn trafod pob agwedd ar weithio gyda grwpiau cymunedol ar draws ystâd BIAP.

Os oes gennych ddiddordeb archebu ystafell gymunedol, gallwch wneud hyn ar-lein yma. Bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb yn gyntaf er mwyn i'ch grŵp gael ei gymeradwyo cyn y gallwch ddechrau archebu. Ar hyn o bryd dim ond yn ysbyty Bro Ddyfi, Machynlleth, y mae ar gael.

Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan, yna gwnewch gais gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Byddai angen i chi fod yn grŵp cymunedol a bod â’r dogfennau iechyd a diogelwch priodol. Yn dibynnu ar waith a maint y grŵp cymunedol, efallai y bydd angen cofrestru am drwydded ffurfiol. Gallai'r grŵp cymunedol fod yn rhan o waith eco-therapi, neu efallai yr hoffech chi helpu cynnal gwelyau blodau. Naill ffordd, byddai BIAP wrth ei fodd clywed gennych!

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol sydd i'w weld yma Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol [HTML] | LLYW.CYMRU

 

Mae'r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy yn anelu at arloesi ac integreiddio cynaliadwyedd i ofal iechyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Gofal Iechyd Cynaliadwy

 

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a reolir gan Cadwch Gymru'n Daclus yn fenter wych o ran darparu mannau gwyrdd hygyrch a gwella'r cynefin naturiol. Maent yn darparu amrywiaeth o ffrydiau cyllido ar gyfer seilwaith gwyrdd.

 Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Keep Wales Tidy

Y Newyddion Diweddaraf

08/01/25
Cynlluniau yn eu lle i adnewyddu capel Rhestredig Gradd II yn Ysbyty Bronllys
Capel yn Ysbyty Bronllys
Capel yn Ysbyty Bronllys

Bydd cynlluniau i ddod â'r capel rhestredig Gradd II annwyl ac adnabyddadwy yn ôl yn fyw yn dechrau yn ystod 2025.

Rhannu:
Cyswllt: