Neidio i'r prif gynnwy

Brexit

Mae'r dudalen hon yn esbonio'r cynlluniau rydym wedi'u gwneud i baratoi ar gyfer unrhyw oblygiadau Brexit yn y GIG yng Nghymru.

Paratoi ar gyfer Brexit: Yr Effaith i Gymru

Mae gwybodaeth am baratoadau ar gyfer Brexit ledled Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/paratoi-cymru

Paratoi ar gyfer Brexit: Yr Effaith ar GIG Cymru

Mae gwybodaeth am baratoadau ar gyfer Brexit ar draws y GIG yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/iechyd-gwasanaethau-cymdeithasol

Mae gwybodaeth ar gyfer staff yr UE sy'n gweithio yn y GIG, gan gynnwys ceisiadau am statws preswylydd sefydlog, ar gael ar wefan Llywodraeth y UK https://eucitizensrights.campaign.gov.uk/

Mae Cwestiynau Cyffredin ar gyfer staff iechyd a gofal ar gael ar wefan Cydffederasiwn GIG Cymru yn https://www.nhsconfed.org/resources/2019/02/managing-eu-withdrawal-in-health-and-social-care-in-wales-faqs

Paratoi ar gyfer Brexit: Yr Effaith ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynllunio ar gyfer Brexit, ganst gynnwys os na ellir dod i Gytundeb Masnach Rydd Cynhwysfawr erbyn 31 Rhagfyr 2020, pan ddaw'r Cyfnod Pontio i ben. Mae ein gwaith cynllunio yn cynnwys:

  • Gweithio fel rhan o drefniadau arwain a chynllunio Brexit Cymru gyfan a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys mewn perthynas â rheoli'r gadwyn gyflenwi (gweler https://llyw.cymru/paratoi-cymru  am fwy o fanylion am y trefniadau cenedlaethol)
  • Cymryd rhan mewn trefniadau cynllunio, profi ac adrodd lleol drwy Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.
  • Sicrhau bod cynlluniau parhad busnes mewnol ar waith yn unol â'n Polisi Parhad Busnes.
  • Parhau i gefnogi dinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir yn ein gweithlu gan gynnwys hyrwyddo Cynllun Setliad yr UE - rhaid i ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir a'u teuluoedd wneud cais i Gynllun Setliad yr UE yn https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families i barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.
  • Rhoi trefniadau ar waith i gyfathrebu am effaith Brexit 'heb gytundeb', gan gynnwys y dudalen we hon.

 

Rhagor o wybodaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyflwynwyd diweddariad ar bontio'r UE i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 25 Tachwedd 2020. Mae hwn i'w weld yn Eitem 3.4 ym papurau ein Bwrdd (Saesneg yn unig).

 

 

Rhannu:
Cyswllt: