Cynhelir Cyfarfod o’r Bwrdd ar 27 Medi 2023. Cyhoeddir yr agenda a’r papurau yma cyn y cyfarfod.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae'n cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i harsylwi fel arfer.
Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r canllawiau presennol mewn perthynas â’r Coronafeirws (COVID-19), mae’r Bwrdd wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd rhithwir drwy ddulliau electronig yn hytrach nag mewn lleoliad ffisegol, hyd y gellir rhagweld. Yn anffodus, bydd hyn yn golygu na fydd aelodau'r cyhoedd yn gallu bod yn bresennol yn bersonol. Mae’r Bwrdd wedi gwneud y penderfyniad hwn er budd gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd.