Mae comisiynu ambiwlans yng Nghymru yn broses gydweithredol wedi'i seilio ar fframwaith comisiynu cydweithredol cenedlaethol ar gyfer ansawdd a chyflawni. Mae'r saith Bwrdd Iechyd wedi ymuno â'r fframwaith ac yn gweithio gyda'i gilydd trwy'r Pwyllgor Gwasanaeth Ambiwlans Brys (EASC)
Darperir gwasanaethau Ambiwlans Brys yng Nghymru gan un sefydliad cenedlaethol - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC). Mae'n ofynnol i YGAC fodloni nifer o safonau ansawdd, gofynion ariannol craidd a dangosyddion canlyniadau.
Mae gwybodaeth am EASC - gan gynnwys hysbysiadau cyhoeddus o gyfarfodydd, agendâu, a phapurau - ar gael ar wefan EASC ar https://pgab.gig.cymru/