Sefydlwyd Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (PGIAC) yn 2010 gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru (BILl) i sicrhau bod gan boblogaeth Cymru fynediad teg a chyfiawn i'r ystod lawn o wasanaethau arbenigol. Wrth sefydlu PGIAC i weithio ar eu rhan, cydnabu’r saith BILl mai’r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o gynllunio’r gwasanaethau hyn oedd gweithio gyda’i gilydd i leihau dyblygu a sicrhau cysondeb.
Mae mwy o wybodaeth am PGIAC - gan gynnwys hysbysiadau cyhoeddus o gyfarfodydd, agendâu, a phapurau - ar gael ar eu gwefan ar http://www.whssc.wales.nhs.uk/home