Mae'r Fforwm Partneriaeth Leol (FfPLl) yn Grŵp Cynghori ar y Bwrdd.
Rôl y Fforwm Partneriaeth Leol (FfPLl) yw darparu mecanwaith ffurfiol lle mae'r Bwrdd Iechyd, fel cyflogwr, ac undebau llafur a chyrff proffesiynol sy'n cynrychioli gweithwyr yn gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau iechyd i'w ddinasyddion. Cyflawnir hyn trwy broses reolaidd, amserol o ymgynghori, trafod a chyfathrebu.
Y FFPLl yw'r fforwm lle bydd BIAP a sefydliadau staff yn ymgysylltu â'i gilydd i lywio, dadlau a cheisio cytuno ar flaenoriaethau lleol ar faterion y gweithlu a'r gwasanaeth iechyd; a llywio meddwl am flaenoriaethau cenedlaethol ar faterion iechyd.
Gall Bwrdd BIAP ofyn yn benodol am gyngor ac adborth gan y FfPLl ar unrhyw agwedd ar ei fusnes, a gall y FfPLl hefyd gynnig cyngor ac adborth hyd yn oed os na fydd y Bwrdd yn gofyn yn benodol amdano.