Diweddarwyd 3 Rhagfyr 2024
Mae Rhaglen Frechu Anadlol y Gaeaf ar gyfer 2024/25 wedi'i lansio ym Mhowys.
Y nod yw cynnig brechlynnau COVID-19 a'r ffliw i'r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol sâl o'r ddau feirws, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd isorweddol, plant a menywod beichiog.
Dyma restr o bwy sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw’r hydref a'r gaeaf hwn:
Bydd y brechlyn chwistrell trwynol y ffliw yn cael ei gynnig i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. Bydd y rhai 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau mewn meddygfeydd yn bennaf, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu brechiadau yn yr ysgol.
Os byddai'n well gennych gael brechlyn heb gelatin ar gyfer eich plentyn, gallwch gysylltu â'ch meddygfa sy'n gallu cynnig brechlyn heb gelatin.
Dechreuodd cyflwyno'r brechlyn ffliw i oedolion ym mis Hydref 2024.
Bydd yr holl bobl gymwys yn cael eu cysylltu gan eu Meddygfa i gynnig brechlyn ffliw. Gallwch hefyd gael brechiad ffliw yn eich fferyllfa gymunedol leol.
I'r rhai sydd ag apwyntiadau, mae cyfeiriadau'r meddygfeydd fel a ganlyn:
Gogledd Powys
|
|
Practis Meddygol Trefaldwyn: Stryd Well, Trefaldwyn, SY15 6PF |
01686 668217 |
Practis Meddygol Arwystli: Stryd Mount, Llanidloes, SY18 6EZ |
01686 412228 |
Practis Meddygol Caereinion: Llanfair Caereinion, Y Trallwng, Powys, SY21 0RT |
01938 810279 |
Canolfan Feddygol Y Trallwng: Heol Salop, Y Trallwng, Powys, SY21 7ER |
01938 553 118 111 |
Bro Ddyfi: Heol Forge; Machynlleth; SY20 8EQ |
01654 702224. |
Canolfan Feddygol Llanfyllin: Stryd Fawr Llanfyllin SY22 5DG |
01691 648 054 |
Practis Meddygol Y Drenewydd Stryd y Parc, Y Drenewydd, SY16 1EF |
01686 611611 |
Canolbarth Powys |
|
Meddygfa Stryd Wylcwm: Stryd Wylcwm, Tref-y-clawdd, LD7 1AD |
01547 528523 |
Practis Grŵp Rhaeadr: Y Feddygfa, Lôn Caeherbert, Rhayader, LD6 5ED |
01597 810231 |
Practis Llanfair-ym-Muallt: Maes-y-Coed, Parc Glandwr, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3DZ |
01982 552207 |
Canolfan Feddygol Llandrindod: Y Feddygfa, Dwyrain Heol Sba, Llandrindod, Powys, LD1 5ES |
01597 824291 |
Canolfan Feddygol Llanandras, Lugg View, Llanandras, LD8 2RJ |
01544 267985 |
De Powys |
|
Meddygfa Pengorof: Heol Gorof, Ystradgynlais, Abertawe, SA9 1DS |
01639 843221 |
Practis Grŵp Aberhonddu: Tŷ Henry Vaughan. Stryd y Bont, Aberhonddu, LD3 8AH |
01874 622121 |
Practis Grŵp Crucywel: Canolfan Iechyd Cofeb Ryfel, Stryd Beaufort, Crucywel Powys NP8 1AG |
01873 810255 |
Canolfan Iechyd y Gelli Gandryll: 5 Gerddi'r Castell, Stryd y Goedwig, Y Gelli Gandryll, Henffordd HR3 5DS |
01497 822100
|
Os hoffech aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad, ffoniwch y feddygfa neu'r fferyllfa leol lle mae disgwyl i chi gael eich brechlyn ffliw.
Mae mwy o wybodaeth am frechlynnau ffliw a COVID-19 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Diogelwch eich hun a'r rhai o'ch cwmpas trwy gael eich brechlyn ffliw.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gofyn i'r holl staff ac ymwelwyr wisgo mwgwd ym mhob ardal glinigol.
Mae brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn chi a'ch teulu rhag canlyniadau'r ffliw’r gaeaf hwn