Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn Ffliw

12 Medi 2025

Ymgyrch frechu'r ffliw 2025/26

Bydd ymgyrch brechu ffliw 2025-26 yn rhedeg ym Mhowys o 1af Hydref 2025 tan 31ain Mawrth 2026.

Mae'r ymgyrch ar gyfer menywod beichiog, plant 2–3 oed a phlant oedran ysgol yn dechrau ym mis Medi 2025.

Y llynedd yng Nghymru, cafodd bron i filiwn o bobl eu brechlyn ffliw. Mae hynny tua un o bob tri pherson. 

Yn ddelfrydol, dylid rhoi'r brechlyn ffliw cyn i'r ffliw ddechrau lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir dal ei roi yn hwyrach.

Mae'n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi'n gymwys. Mae'n un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag ffliw.

 

  • Bydd meddygfeydd teulu yn cysylltu â phob person cymwys ym Mhowys i gynnig y brechlyn ffliw.
  • Bydd plant oedran ysgol sy'n mynychu'r ysgol yn derbyn chwistrell trwynol ffliw gan nyrs ysgol. Os nad yw eich plentyn yn mynychu'r ysgol, gwnewch apwyntiad yn eich meddygfa.
  • Gallwch hefyd gael brechiad ffliw yn eich fferyllfa gymunedol leol.

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iach, rydych chi'n fwy tebygol o gael cymhlethdodau o ganlyniad i’r ffliw os byddwch chi'n ei ddal. Yn yr achos hwn, rydym yn eich cynghori i gael brechlyn y ffliw os ydych yn bodloni un o’r canlynol: 

  • Rydych chi'n feichiog (ar gael o 1af Medi)
  • Rydych chi’n 65 oed neu'n hŷn Rydych chi rhwng chwe mis a 64 oed ac mae gennych chi gyflwr iechyd hirdymor sy'n eich rhoi mewn mwy o berygl o gael y ffliw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • Diabetes
    • Problemau gyda’r galon
    • Cwyn am y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sy'n gofyn am anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd
    • Clefyd yr arennau (o gam 3)
    • System imiwnedd wan oherwydd clefyd neu driniaeth (a chysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn hefyd)
    • Clefyd yr afu
    • Wedi cael strôc neu strôc fach
    • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd niwronau modur
    • Dueg ar goll neu broblem gyda hi
    • Anabledd dysgu
    • Salwch meddwl difrifol
    • Afiachus o ordew (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai sydd â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, yn 16 oed neu'n hŷn.
    • Epilepsi
  • Rydych chi’n byw mewn cartref gofal
  • Rydych chi’n ddigartref
  • Rydych chi'n weithiwr dofednod sydd mewn perygl uchel (ar gael mewn fferyllfeydd yn unig)

Rydym yn cynghori’r grwpiau canlynol hefyd i gael brechlyn ffliw er mwyn eu diogelu eu hun a'r bobl o'u cwmpas:

 

 

  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2024) (ar gael o 1af Medi)
  • Plant a phobl ifanc yn yr ysgol o'r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 (ar gael o 1af Medi)
  • Gofalwyr
  • Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion/cleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf brys wedi'i gynllunio
  • Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

 

Os hoffech aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad, ffoniwch y feddygfa neu'r fferyllfa leol lle mae disgwyl i chi gael eich brechlyn ffliw.

Am ragor o wybodaeth


 


 

30/12/24
Mae ffliw yn cylchredeg yn ein cymunedau

Mae brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn chi a'ch teulu rhag canlyniadau'r ffliw’r gaeaf hwn

06/12/24
Peidiwch ag ymweld ag ysbyty gyda symptomau ffliw neu ddolur rhydd a chwydu

Mae'r GIG ym Mhowys yn gofyn i bobl beidio ag ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty os ydynt yn sâl, wedi bod yn sâl yn y 48 awr ddiwethaf, neu wedi bod mewn cysylltiad â phobl â dolur rhydd, chwydu neu symptomau tebyg i’r ffliw yn ystod y dyddiau diwethaf.

17/01/24
Mae amser o hyd i gael eich brechlyn ffliw y gaeaf hwn
Delwedd agos o nyrs yn rhoi pigiad i glaf
Delwedd agos o nyrs yn rhoi pigiad i glaf

Mae'r ffliw yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau a brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn chi a'ch teulu rhag canlyniadau'r ffliw’r gaeaf hwn.

Rhannu:
Cyswllt: