Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd yr Ysgyfaint a Sgrinio'r Ysgyfaint wedi'i Drefnu ar gyfer Cymru

Cymorth i roi'r gorau i ysmygu nawr

Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i ysmygu nawr, cliciwch y ddolen hon i Helpu Fi i Stopio neu gallwch ffonio 0800 085 2219 am gymorth.

Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, dylech ddweud wrth eich meddyg (meddyg teulu) ar unwaith.

Gall y symptomau hyn olygu bod problem gyda'ch ysgyfaint neu'ch calon, felly mae'n bwysig cael archwiliad.

  • Peswch nad yw'n diflannu am 3 wythnos neu fwy
  • Pesychu gwaed
  • Yn brin o anadl yn gwneud pethau a oedd unwaith yn teimlo'n hawdd
  • Colli pwysau’n anfwriadol


Mae Sgrinio’r Ysgyfaint wedi'i gynllunio i ddechrau yng Nghymru yn 2028

Beth yw sgrinio'r ysgyfaint? 

Mae sgrinio’r ysgyfaint yn archwiliad iechyd ar gyfer eich ysgyfaint. Mae'n chwilio am ganser yr ysgyfaint cyn i chi deimlo'n sâl. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bwriadu dod â'r sgrinio hwn i bobl sy'n byw yng Nghymru.  

Bydd pobl gymwys yn cael eu gwahodd i gael galwad ffôn gyda rhai cwestiynau am eu hiechyd. Yn dilyn yr alwad ffôn, cynigir sgan o'u brest iddynt os oes angen.
 

Pwy fydd yn cael ei wahodd? 

  • Pobl 55-74 oed, sy'n ysmygu nawr neu wedi ysmygu yn y gorffennol. 
  • Ni fydd pobl nad ydynt erioed wedi ysmygu yn cael eu gwahodd. 
  • Nid oes rhaid i chi gymryd rhan yn y sgrinio os nad ydych chi eisiau.


Pryd fydd yn dechrau? 

Mae Sgrinio’r Ysgyfaint wedi'i gynllunio i ddechrau yng Nghymru yn 2028. 

Ar y dechrau, dim ond rhai pobl fydd yn cael eu gwahodd. Dros y chwe blynedd nesaf, bydd mwy o bobl yn cael eu gwahodd nes bod pawb sy'n gymwys wedi'u cynnwys.  

Rhannu:
Cyswllt: