Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hunain a'n plant rhag afiechyd. Maent yn atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn
Mae Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion Powys yn darparu'r holl frechiadau wedi'u hamserlennu a'r brechiad ffliw blynyddol i blant oedran ysgol sy'n mynychu ysgolion ledled Powys.
Gall plant nad ydynt yn mynychu'r ysgol gysylltu â'u meddyg teulu i gael eu brechiadau yn eu practis meddyg teulu.
Os ydych chi'n ansicr a yw eich plentyn wedi methu unrhyw frechiadau, cysylltwch â'ch meddygfa.