Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn COVID-19

Mae'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cynghori cynnal rhaglen frechu atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref sy'n canolbwyntio ar gynnig brechlyn i'r rhai sydd fwyaf tebygol o elwa'n uniongyrchol o frechu, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n cynyddu eu risg o fynd i'r ysbyty yn dilyn haint.

Prif nod y rhaglen frechu genedlaethol COVID-19 yw atal salwch difrifol (derbyniadau i ysbytai a marwolaethau) sy'n deillio o COVID-19.

Bydd rhaglen Atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref ym Mhowys yn rhedeg rhwng 1 Hydref 2024 a 31 Mawrth 2025. Bydd clinigau'n cael eu cynnal yn ein prif ganolfannau brechu yn Y Drenewydd a Bronllys, yn ogystal ag mewn ysbytai cymunedol ledled Powys a rhai lleoliadau cymunedol.

Pwy sy'n gymwys i gael brechlyn COVID-19 yr Hydref hwn?

Ar gyfer ymgyrch atgyfnerthu’r hydref 2024/2025, mae'r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i:

  • oedolion 65 oed neu hŷn
  • preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
  • pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg clinigol (fel y'i diffinnir yn nhabl 3 a 4 pennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd)

Cysylltwch â’r Hyb Archebu gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn eich llythyr archebu a byddant yn gallu trefnu amser arall.

Mae eich llythyr archebu hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth ail-archebu lle gallwch drefnu apwyntiad arall eich hun. Bydd angen mewngofnod GIG arnoch i gael mynediad at y gwasanaeth hwn, y gellir gofyn amdano yma: Sut i sefydlu mewngofnodi GIG

Ffoniwch y ganolfan trefnu apwyntiadau ar 01874 442510 a fydd yn gallu cynnig apwyntiad i chi yn un o'n clinigau cymunedol.

Gall sefydliadau trafnidiaeth gymunedol ar draws y sir hefyd ddarparu cymorth gyda theithio i apwyntiadau'r GIG: Teithio i Ganolfan Brechu - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Os hoffech deithio gyda theulu, ffrindiau a chymdogion, siaradwch â'n canolfan apwyntiadau gan y gallwn gynnig amseroedd apwyntiad gyda’i gilydd:

  • Cofiwch na ddylech gael eich brechu os ydych yn sâl ar hyn o bryd.
  • Hefyd, dim ond i unigolion cymwys y cynigir brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yr hydref (oedolion 65 oed a hŷn, preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn a phobl 6 mis i 64 oed mewn grŵp risg clinigol). Dim ond teulu, ffrindiau a chymdogion yn y grwpiau hyn fydd yn cael eu gwahodd i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yr hydref.

Oes. Cysylltwch â'n hyb archebu fel y gallant drefnu amser apwyntiad gyda'i gilydd.

Oes. Cysylltwch â'n hyb archebu fel y gallant drefnu amser apwyntiad gyda'i gilydd.

Byddwn yn cynnal clinigau rheolaidd mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ledled Powys. Cysylltwch â'r tîm trefnu apwyntiadau i drafod eich opsiynau.

Bydd eich tîm nyrsio ardal yn siarad â chi am atgyfnerthwyr gwanwyn COVID-19. Os ydych chi'n glinigol gaeth i'r tŷ ac wedi derbyn gwahoddiad i gael pigiad atgyfnerthu gwanwyn mewn prif glinig brechu, cysylltwch â'n tîm archebu a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi.

Rhannu:
Cyswllt: