Beth yw firws syncytial anadlol (RSV)?
Firws cyffredin y gaeaf yw firws syncytial anadlol (RSV), a bydd bron i bob plentyn wedi'i gael erbyn eu bod yn ddwy oed. Mae'n gyffredin i blant hŷn ac oedolion ddal y feirws eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy'n mynd yn sâl o haint RSV fynd i'r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.
Mae salwch oherwydd RSV yn cael effaith fawr ar y GIG yn ystod misoedd y gaeaf. Yn y DU, mae tua 33,500 o blant dan bump oed yn mynd i'r ysbyty oherwydd y firws. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Sut mae RSV yn lledaenu?
Mae RSV yn lledaenu drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi'u heintio. Pan fydd pobl sydd wedi'u heintio yn pesychu neu'n tisian, maen nhw'n rhyddhau defnynnau bychan bach sy'n cynnwys y firws i'r awyr. Gall yr haint gael ei ledaenu wrth i bobl gyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau sydd â'r firws arnynt hefyd. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael y firws o'r blaen pan oedden nhw'n blentyn. Fodd bynnag, efallai na fydd y ffaith eich bod wedi dal haint RSV o'r blaen yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn o hyd, felly gallech gael RSV eto.
Pam mae yna raglen frechu RSV?
Grŵp o arbenigwyr yn y DU sy'n cynghori'r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio yw'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Ym mis Medi 2023, fe wnaeth y JCVI ddatblygu rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn.
Mae'r rhaglen RSV yn rhaglen newydd a fydd yn amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf, gan gadw mwy o bobl allan o'r ysbyty a rhag gorfod gweld meddyg teulu.
Gallai'r brechiad arbed 1,000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag mynd i'r ysbyty a gallai achub bywydau 100 a mwy o bobl hŷn bob blwyddyn.
Erbyn hyn, mae brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael ac argymhellwyd y dylid trefnu rhaglen imiwneiddio RSV yn holl wledydd y DU.
Grwpiau risg uchel
Rhaglen mamol i amddiffyn babanod newydd-anedig a phlant bach
Mae RSV yn gallu achosi i fabanod newydd-anedig a phlant bach fynd yn sâl iawn.
Gall babanod ddatblygu problemau difrifol ar yr ysgyfaint, fel bronciolitis (chwyddo llwybrau anadlu bach yr ysgyfaint) a niwmonia (chwyddo codennau aer yr ysgyfaint). Efallai y bydd angen i fabanod sydd â bronciolitis neu niwmonia fynd i'r ysbyty i'w helpu i wella.
RSV yw'r achos mwyaf cyffredin o bronciolitis mewn babanod. Gall bronciolitis ei gwneud hi'n anodd i blant bach anadlu, yn enwedig:
Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i'ch baban, dylech gael eich brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd.
Dylid cynnig y brechlyn i chi tua'r adeg y byddwch yn cael eich apwyntiad cynenedigol 28 wythnos. Os nad ydych wedi clywed erbyn yr adeg hon, cysylltwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu i wneud apwyntiad.
Mae'r brechlyn fwyaf effeithiol rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.
Sut mae cael eich brechu yn ystod beichiogrwydd yn amddiffyn y baban?
Bydd yr amddiffyniad a gewch o'r brechlyn yn cael ei drosglwyddo i'ch babi drwy'r brych. Mae'r brych y tu mewn i'ch croth ac yn cysylltu'ch cyflenwad gwaed â'ch babi heb ei eni.
Bydd y brechlyn yn helpu i amddiffyn eich babi yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd pan fydd fwyaf agored i niwed.
Hefyd, mae'r brechlyn yn helpu i atal menywod beichiog rhag cael RSV ac yn lleihau'r risg o’i drosglwyddo i'w babi.
Yw'r brechlyn RSV yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn caniatáu iddi gael ei defnyddio. Unwaith maen nhw'n cael eu defnyddio, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch.
Does dim tystiolaeth i ddangos bod y brechlyn hwn yn beryglus i'ch beichiogrwydd. Nid yw'r brechlyn RSV yn frechlyn byw, felly ni all achosi RSV mewn menywod na'u babanod. Y brechlyn RSV yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn eich babi heb ei eni rhag RSV.
OLDER ADULTS PART- Rhaglen ar gyfer oedolion hŷn
Mewn oedolion hŷn, gall RSV achosi problemau anadlu difrifol, yn enwedig yn y rhai sy’n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. I nifer fach o bobl sydd mewn perygl o glefyd anadlol mwy difrifol, gallai haint RSV achosi niwmonia (haint yr ysgyfaint) neu farwolaeth hyd yn oed.
|
ich oedran |
Pryd y gallaf gael y brechlyn RSV? |
|
74 oed |
Ar eich pen-blwydd yn 75 oed neu ar ôl hynny |
|
Rhwng 75 a 79 oed |
Unrhyw adeg yn ystod yr ystod oedran hon |
|
80 oed neu’n hŷn (os cawsoch eich geni ar ôl 2 Medi 1944) |
Unrhyw adeg |
Os ydych chi'n gymwys i gael y brechlyn, cadwch lygad am lythyr apwyntiad neu archebwch apwyntiad mewn clinig sy'n cael ei hysbysebu gan eich practis meddygon teulu pan gewch wahoddiad i wneud hynny. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi colli eich apwyntiad, siaradwch â'ch darparwr gofal iechyd.
Yw'r brechlyn RSV yn ddiogel i oedolion hŷn?
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn caniatáu iddi gael ei defnyddio. Unwaith maen nhw'n cael eu defnyddio, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch.
Mae'r brechlyn RSV wedi pasio safonau diogelwch llym i'w ddefnyddio yn y DU, a gwelwyd ei fod yn ddiogel iawn. Fel pob brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgil-effeithiau’n cael eu monitro a'u hadolygu'n ofalus.
Adnoddau:
Brechiad feirws syncytiol anadlol (RSV) ar gyfer oedolion hŷn - Iechyd Cyhoeddus Cymru