Jest gofyn ... "A allai fod yn sepsis?"
Mae sepsis yn peryglu bywyd. Gall fod yn anodd i’w adnabod.
Mae llawer o symptomau posibl. Gallant fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill, gan gynnwys y ffliw neu haint ar y frest.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi neu rhywun yr ydych chi'n gofalu amdanynt symptomau sepsis, ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Achosion Brys. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymddiried yn eich greddf.
Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan faban neu blentyn ifanc unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:
- croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
- brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti, yr un fath â meningitis
- anhawster anadlu (gallech sylwi ar synau rhochian neu ei stumog yn sugno i mewn o dan ei gawell asennau), diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn
- cri wan, fain sy'n wahanol i'w gri arferol
- nid yw'n ymateb yn ei ffordd arferol, neu ddim diddordeb mewn bwydo neu weithgareddau arferol
- bod yn fwy cysglyd nag arfer neu'n anodd ei ddeffro
Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.
Mae gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU daflen gyda gwybodaeth am Gweld y Plentyn Sâl.
Dewch o hyd i adran A&E.
Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan oedolyn neu blentyn hŷn unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:
- ymddwyn yn ddryslyd, lleferydd aneglur neu ddim yn gwneud synnwyr
- croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
- brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti, yr un fath â meningitis
- anhawster anadlu, diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn
Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.
Dewch o hyd i adran A&E.
Do not drive to A&E. Ask someone to drive you or call 999 and ask for an ambulance.
Bring any medicines you take with you.
Call 111 now if:
Ffoniwch GIG 111 Cymru
Os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych yn gofalu amdano:
- yn teimlo'n sâl iawn neu fel bod rhywbeth mawr o'i le
- heb basio dŵr drwy'r dydd (o ran oedolion a phlant hŷn) neu yn ystod y 12 awr diwethaf (o ran babanod a phlant ifanc)
- yn chwydu o hyd ac nid yw'n gallu cadw unrhyw fwyd na llaeth i lawr (o ran babanod a phlant ifanc)
- mae'r ardal o amgylch toriad neu glwyf wedi chwyddo, yn goch neu'n boenus
- mae ganddo dymheredd uchel neu dymheredd isel iawn, mae'n teimlo'n boeth neu'n oer wrth gyffwrdd ag ef, neu'n crynu
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siwr ai sepsis ydyw - mae'n well ffonio 111 o hyd.
Gallant ddweud wrthych beth i'w wneud, trefnu galwad ffôn gan nyrs neu feddyg, neu alw ambiwlans i chi.
Gall sepsis fod yn arbennig o anodd ei adnabod mewn:
- babanod a phlant ifanc
- pobl sydd â dementia
- pobl sydd ag anabledd dysgu
- pobl sydd ag anhawster cyfathrebu
Beth yw sepsis?
Mae sepsis yn adwaith i haint sy'n gallu bygwth bywyd.
Mae'n digwydd pan fydd eich system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau eich corff eich hun.
Ni allwch ddal sepsis o rywun arall.
Weithiau, mae sepsis yn cael ei alw'n septicaemia neu wenwyn gwaed.
Dysgwch fwy o wefan GIG 111 Cymru.