Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio

Mae sgrinio yn broses o adnabod pobl sy'n ymddangos yn iach a allai fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Yna gellir cynnig gwybodaeth, profion pellach a thriniaeth briodol iddynt i leihau eu risg a / neu unrhyw gymhlethdodau sy'n deillio o'r afiechyd neu'r cyflwr.

Mae sawl rhaglen sgrinio ar gael yng Nghymru i gefnogi'r canfod a'r driniaeth:

  • Sgrinio Cyn Geni Cymru
  • Sgrinio Smotyn Newydd-anedig Cymru
  • Sgrinio Clyw Babanod Cymru
  • Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
  • Sgrinio Serfigol Cymru
  • Bron Brawf Cymru
  • Sgrinio Coluddion Cymru
  • Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortig Abdomenol Cymru

Darganfyddwch fwy:

Bron Brawf Cymru

Mae sgrinio’r fron yn golygu chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddod i’r amlwg. Mae’n golygu tynnu mamogramau, sef pelydrau-X o’r fron.  Mae merched sy'n bwy yng Nghymru, 50 hyd at 70 oed yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob 3 blynedd.  Ni chaiff menywod dros 70 oed wahoddiad ar gyfer sgrinio, ond gallwch gysylltu â Bron Brawf Cymru a gofyn am apwyntiad.

Sgrinio Clyw Babanod Cymru

Mae un neu ddau o fabanod o bob mil yn cael eu geni â cholli clyw. Mae cael gwybod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad babi, yn enwedig ar gyfer datblygiad lleferydd ac iaith. Mae hefyd yn golygu y gallwn gynnig cymorth a gwybodaeth o'r cychwyn cyntaf.

Sgrinio Cyn Geni Cymru

Bydd menywod sy'n feichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn-geni  yn ystod eu beichiogrwydd i wirio eu iechyd ac iechyd y babi. Bydd bydwraig yn esbonio'r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o'ch gofal cynenedigol arferol. Gall sgrinio gynnwys sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Mae'n bwysig penderfynu pa brofion, os o gwbl, sy'n iawn i chi.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Mae profion sgrinio llygaid diabetig yn edrych am glefyd llygaid diabetig (retinopathy diabetig) cyn i unrhyw symptomau ymddangos.  Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes, a’ch bod yn 12 oed neu’n hyn, fe’ch gwahoddir i fynychu apwyntiad sgrinio.  

Sgrinio Coluddion Cymru

Mae sgrinio'r coluddyn yn anelu at ddod o hyd i ganser yn gynnar lle mae triniaeth yn debygol o fod y mwyaf effeithiol. Mae darganfyddiad cynnar yn allweddol. Bydd o leiaf 9 allan o bob 10 pobl yn goroesi canser y coluddyn os bydd yn cael ei ddarganfod a'i thrin yn ddigon cynnar. Mae'r pecyn prawf sgrinio wedi'i gynllunio i fesur faint o waed sydd yn eich carthion (pw), a gall cael ei gyflawni yn eich tŷ. Ar ôl i chi cyflawni'r prawf a danfon atom bydd eich canlyniadau fel arfer yn cyrraedd nôl atoch o fewn 2 wythnos. Mae pobl rhwng 51 a 74 oed ac sydd yn byw yng Nghymru yn cael ei gwahodd i gymryd y prawf sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.

Sgrinio Serfigol Cymru

Gall sgrinio serfigol atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei godi yn gynnar. Bydd y prawf taeniad yn edrych am fathau risg uchel o HPV a all achosi newidiadau i gelloedd. Trwy ddod o hyd i newidiadau i gelloedd yn gynnar, gall sgrinio atal canser ceg y groth rhag datblygu. Gwahoddir menywod ac unigolion â cheg y groth rhwng 25 a 64 oed am sgrinio serfigol yng Nghymru.

Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

Mae sgrinio smotyn gwaed babanod newydd-anedig yn golygu cymryd gwaed o sawdl y babi ar ddiwrnod pump o fywyd y babi.  Mae’r sampl gwaed hwn yn cael ei sgrinio am glefydau prin ond difrifol a all achosi salwch difrifol neu farwolaeth hyd yn oed os na chânt eu trin yn gynnar.  Mae’r prawf sgrinio hwn yn cael ei wneud gan fydwraig ac mae’n rhan arferol o ofal ôl-enedigol.

Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol

Nod rhaglen sgrinio ymlediadau aortig abdomenol Cymru yw lleihau nifer o ymlediadau aortig abdomenol (YAA) a marwolaethau yng Nghymru.  Gwahoddir dynion 65 oed, y mae'r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio.  Defnyddir uwchsain i sganio’r abdomen i chwilio am YAA.

Rhannu:
Cyswllt: