Smygu yw’r prif beth sy’n achosi salwch ataliadwy a marwolaethau cyn pryd yng Nghymru. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n achosi chwarter o'r holl farwolaethau canser, ac yn gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn, gyda 5,600 o’r rhain yng Nghymru.
Er y gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai smygwyr i'w helpu i roi'r gorau i smygu, mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n fepio wedi treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw’r niwed hirdymor y gallent ei achosi yn hysbys ar hyn o bryd, mae fêps yn peri risg o niwed i iechyd plant ynghyd â risg o ddibyniaeth.
Mae’r defnydd o fêps tafladwy hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae bron i 5 miliwn yn cael eu taflu bob wythnos. Yn ogystal â bod yn wastraffus iawn oherwydd eu cydrannau anodd eu hailgylchu, gwyddom fod plant yn defnyddio fêps tafladwy, a phan fyddant yn cael eu taflu gallant ryddhau cemegion gwenwynig i’r amgylchedd.