Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi dan 18 oed ac yn fêpio?

Mwg lliwgar o fêp sy’n cael ei ddal mewn llaw

Yr argymhelliad yw na ddylai plant a phobl ifanc, nac unrhyw un sydd heb ysmygu o’r blaen, fêpio, gan na ellir gwneud hyn heb achosi niwed. Yn y tymor byr, gall pobl ddioddef cur pen, dolur gwddf, pendro a pheswch.

Er bod e-sigaréts wedi bod ar gael ers dros 15 mlynedd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ar beth yw’r effeithiau hirdymor posib fêpio. Mae sawl myth a chamsyniad ynglŷn â’r defnydd o e-sigaréts, yn enwedig gan blant a phobl ifanc. At hyn mae rhai siopau’n sy'n gwerthu e-sigarets yn hysbysebu eu bod yn 'rhydd o nicotin' er eu bod, mewn gwirionedd yn cynnwys, lefelau uchel o nicotin.

 

Ydych chi’n YSMYGU AC yn FÊPIO ac eisiau rhoi’r gorau iddyn nhw?

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rhoi’r Gorau i Ysmygu Powys ar: RHADFFÔN 0800 0852219

Neu gallwch ofyn am alwad yn ôl drwy lenwi’ch manylion cyswllt ar-lein: Tudalen Gartref - Helpa Fi i Stopio

 

 

Ydych chi’n FÊPIO ac eisiau cymorth i roi’r gorau iddi?

Cliciwch ar y dolenni isod i gyrchu cymorth ledled Powys:

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc Powys - Adferiad

Cefnogaeth gan y Gwasanaeth Ieuenctid - Cyngor Sir Powys

Nyrsio Ysgol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

SgwrsIechyd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Dilynwch y ddolen isod at ddogfennu sy'n rhannu gwybodaeth ac arweiniad ar fêpio i ddysgwyr oed uwchradd yng Nghymru

Gwybodaeth ac arweiniad ar Fêpio i Ysgolion yng Nghymru (gig.cymru)

 

Rhannu:
Cyswllt: