Bydd Rhaglen Brechu COVID-19 y Gwanwyn yn dechrau ym Mhowys ar 1af Ebrill 2026 ac yn rhedeg tan 30ain Mehefin 2026.
Bydd pob person cymwys yn cael gwahoddiad drwy lythyr i dderbyn eu Brechlyn COVID-19 yn eu clinig brechu cymunedol agosaf.
Os hoffech aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad neu os hoffech fynychu eich apwyntiad gydag aelod o'r teulu neu ffrind, ffoniwch ein tîm trefnu apwyntiadau ar 01874 442510. Rydym yn croesawu galwadau/gohebiaeth yn y Gymraeg.
Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. Mae'n fwy difrifol mewn pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Mae pobl sydd mewn mwy o berygl sy'n dal COVID-19 yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty.
Bydd dos y gaeaf yn cael ei gynnig i grwpiau o bobl sydd mewn mwy o berygl pe baent yn cael COVID-19. Mae’r rhain fel a ganlyn:
• pobl 75 oed a hŷn;
• preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; ac
• unrhyw un chwe mis oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan.
Os ydych chi'n gymwys i gael dos y gwanwyn, bydd yn cael ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o'r brechlyn. Os byddwch chi'n troi'n 75 oed rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, byddwch chi'n cael eich galw i gael eich brechu yn ystod y rhaglen – does dim rhaid i chi aros tan eich pen-blwydd.
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Bydd dos y gwanwyn yn helpu i’ch amddiffyn am gyfnod hirach. Bydd hefyd yn helpu lleihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.
Mae unigolion imiwnoataliedig yn fwy tebygol o gael salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Os oes gennych anhwylder sy'n effeithio ar eich system imiwnedd, yn cael triniaeth imiwnoataliedig, neu'n cymryd meddyginiaethau sy'n cynyddu eich risg o haint, cewch eich gwahodd i gael eich brechiad COVID-19 yn y Gwanwyn.
Bydd Gwasanaeth Brechu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae’n bwysig dod i’r apwyntiad pan gewch wahoddiad. Os na allwch fynychu neu os hoffech apwyntiad yr un pryd â ffrind neu aelod o’r teulu, rhowch wybod i’r tîm trefnu apwyntiadau fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall.
Gellir cysylltu â'r tîm trefnu dros y ffôn ar 01874 442510 neu drwy e-bostio Powys.VaccinationService@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn y Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlynnau ffliw a COVID-19 ar gael yn Gwybodaeth am frechlad COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gellir dod o hyd i wybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd yn Brechu mewn fformatau hygyrch - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os ydych yn gymwys i gael dos gwanwyn bydd yn cael ei gynnig rhwng Ebrill a Mehefin.
Wrth i ni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn atgoffa pawb fod brechiadau yn gallu helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag salwch cyffredin y gaeaf hwn a chefnogi'r GIG i ganolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf angen y gofal.