Diweddariad ar Drefniadau Ymweld ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (diweddarwyd diwethaf 30 Rhagfyr 2024)
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cydnabod y rôl bwysig y mae ymwelwyr yn ei chwarae yn adferiad claf ac rydym yn gwybod ei bod yn bwysig i chi ymweld â'ch anwyliaid. Ein ple ni yw eich bod yn gwneud hynny'n ddiogel i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed o ganlyniad i haint.
Felly, cytunwyd ar y canllawiau ymweld isod, yn unol ag Egwyddorion Ymweld Cymru Gyfan cyfredol, i'w gweithredu ar draws y Bwrdd Iechyd:
Mae'r camau hyn ar waith i atal heintiau ac i wneud ymweld mor ddiogel â phosibl.
Canllawiau cyffredinol:
- Peidiwch ag ymweld â’r ward os nad ydych yn teimlo’n hwylus.
- Gwiriwch amseroedd ymweld cyn ymweld â’r ward.
- Sicrhewch eich bod yn diheintio eich dwylo cyn dod i mewn/gadael y ward ac amgylchedd yr ysbyty.
- Mae gorchuddion wyneb ar gael pan fyddwch yn cyrraedd y safle. Cynghorir pob ymwelydd a'r rhai sy'n mynd gyda chleifion i apwyntiadau yn gryf i wisgo mwgwd.
- Gall pob claf gael hyd at ddau ymwelydd bob ymweliad.
- Ni ddylai ymweliad barhau am fwy na 2 awr.
- Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i beidio â chasglu mewn grwpiau mawr mewn coridorau ward.
- Galluogir ymweld y tu allan i oriau ymweld arferol mewn amgylchiadau eithriadol, ar gytundeb rheolwr y ward.
- Pan fo ward ar gau oherwydd achosion o haint, ni chaniateir ymweld (oni bai mewn amgylchiadau eithriadol a chytunir gan reolwr ward a thîm Atal a Rheoli Heintiau)
- Gall cleifion ag anghenion iechyd meddwl a chynllun diwedd oes/lliniarol drefnu ymweliadau sy'n cyd-fynd â gofynion anghenion y teulu a'r claf.
Amser Bwyd Wedi'i Ddiogelu
- Rydym yn deall y bydd llawer o gleifion yn bwyta mwy gydag anogaeth a chefnogaeth aelodau'r teulu, ffrindiau a/neu berson ymroddedig i'w cefnogi. Siaradwch ag aelod o dîm y ward fel y gall hyn fod yn rhan o gynllun presenoldeb y cytunwyd arno.
- Dylai gofalwyr a'r rhai sy'n helpu pobl ag anawsterau dysgu neu anghenion iechyd meddwl siarad â staff y ward fel y gall hyn fod yn rhan o gynllun presenoldeb y cytunwyd arno.
Cydnabyddir na all canllawiau cwmpasu pob cais am ymweld na holl amgylchiadau cleifion.
Mae'r canllawiau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus ac yn gallu cael eu newid.
Mae ein trefniadau ymweld lleol yn adlewyrchu’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Gwiriwch ysbytai cyfagos am wybodaeth ymweld ar gyfer Ysbytai Cyffredinol Dosbarth mewn siroedd cyfagos.