Mae canmoliaeth mewn gofal iechyd yn darparu manteision sylweddol i gleifion, staff, timau a sefydliadau. Er bod cwynion yn aml yn tynnu sylw at feysydd i'w gwella, mae canmoliaeth yn helpu nodi ac atgyfnerthu'r hyn sy'n gweithio'n dda.
Ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys rydym yn croesawu canmoliaeth ac yn cydnabod y manteision sydd ganddynt o ran cynyddu morâl staff a'u hymgysylltiad wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Gellir cyflwyno canmoliaeth drwy ein system adborth arolwg ar-lein o'r enw Civica. Unwaith y byddwch ar y ddolen, dewiswch y gwasanaeth yr hoffech roi adborth amdano o'r cwymplen: Dewiswch eich Adrannau
Fel arall, gallwch anfon eich canmoliaeth drwy e-bost at pthb.peoplesexperience@wales.nhs.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu'r wybodaeth ganlynol er mwyn i ni sicrhau bod eich canmoliaeth yn cyrraedd y person neu'r tîm cywir.
Ydych chi neu'ch anwylyd wedi derbyn gofal gwych gan un o'n haelodau staff neu timau? Hoffech chi eu henwebu ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl? Dyma eich cyfle i ddweud diolch.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymdrechu i sicrhau bod y gofal a ddarparwn o ansawdd uchel, yn ddiogel, yn effeithlon ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau i bobl. Rydym yn gwybod bod llawer o'n gwasanaethau, yn ein hysbytai ac yn y gymuned, a ddarperir gan ein staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn eithriadol. Fel bwrdd iechyd, rydym yn aml yn derbyn canmoliaeth a cheisiadau i ddiolch i staff ar ran cleifion, gofalwyr a theuluoedd.
Er mwyn ein helpu ni gofnodi, dathlu a dysgu o'r enghreifftiau cadarnhaol hyn o ofal a gwasanaeth eithriadol, yn ogystal â sicrhau bod ein staff yn derbyn diolch gan y rhai sydd bwysicaf; ein cleifion a'u teuluoedd, rydym wedi cyflwyno 'Gwobrau Dewis y Bobl'.
Mae Gwobrau Dewis y Bobl yn rhoi cyfle i gleifion, gofalwyr, perthnasau ac ymwelwyr ddweud eu dweud ac enwebu unrhyw aelod o staff neu dîm, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, y maent yn teimlo sydd wedi mynd yr ail filltir, wedi darparu gofal rhagorol ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl.
Diolch am ein helpu ni anrhydeddu'r bobl eithriadol sy'n gweithio yn ein gwasanaethau gofal iechyd.