Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau a Ffurflenni Mynediad at Wybodaeth

Gallwch wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (SAR) i drefnu i weld neu gael copïau o'ch cofnodion meddygol, neu gofnodion personél os ydych chi ar hyn o bryd, neu os ydych chi wedi cael eich cyflogi gan y bwrdd iechyd yn y gorffennol.

Gallwch hefyd wneud cais am gofnodion meddygol aelod o'r teulu gyda'u cydsyniad neu drwy ddarparu'r ddogfennaeth briodol sydd ei hangen pan nad oes modd darparu cydsyniad. 

I wneud cais, defnyddiwch un o’r ffurflenni isod.

Danfonwch y ffurflen gais a dogfennau adnabod at information.governance.powys@wales.nhs.uk

Mae cyfeiriad post hefyd ar gael ar y ffurflen os na allwch e-bostio’r cais.

Ar gyfer ceisiadau heddlu neu grwner, e-bostiwch information.governance.powys@wales.nhs.uk gyda’r ffurflen gais briodol.

Gwneud cais

Nodwch eich manylion cyswllt - rhowch eich cyfeiriad a'ch rhif ffôn neu'ch cyfeiriad e-bost rhag ofn bod angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.

Cyflwynwch brawf o’ch hunaniaeth - rhowch brawf o'ch hunaniaeth pan fyddwch yn gwneud eich cais ysgrifenedig, megis copi o'ch pasbort, trwydded yrru, neu dystysgrif geni ynghyd â gwybodaeth berthnasol sy'n gallu cadarnhau eich cyfeiriad, er enghraifft bil cyfleustodau.

Byddwch yn benodol – helpwch ni nodi'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch.  Er enghraifft, a oes angen gwybodaeth arnoch ynglŷn â'ch cofnod iechyd neu eich cofnod fel staff y GIG? Oes angen copïau o gofnodion o wasanaeth penodol, clinigwr neu gyfyng amser? Hefyd, os yw'n bosibl, rhowch unrhyw rifau cyfeirio y gellir eu defnyddio, fel rhif eich claf neu rif staff.

Dangoswch brawf o berthynas – os yw'r wybodaeth ynglŷn â pherson arall, rhowch brawf o berthynas ac unrhyw gydsyniad angenrheidiol. Bydd angen i chi nodi hefyd pam eich bod angen y wybodaeth os yw'r person wedi marw.

Os yw eich cais am gopi o'ch cofnod iechyd/gwybodaeth bersonol yn unig, ni chodir ffi, fodd bynnag, os yw'r cais yn gofyn am ysgrifennu adroddiad neu ddehongliad o wybodaeth o fewn y cofnod, yna gellir codi ffi briodol. 

 

Manylion Cyswllt:

information.governance.powys@wales.nhs.uk

01686 252140 / 01874 442071

 Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - X-Ray yn Unig (Word, 60Kb)

Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - X-Ray.docx

 Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - Ar Gyfer Person Ymadawedig (Word, 61Kb)

Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - Ar Gyfer Person…

 Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - Byw (a Plant) (Word, 62Kb)

Cymraeg Ffurflenni - Mynediad at Wybodaeth - Byw (a plant).docx

Rhannu:
Cyswllt: