Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gofyn am eich barn ar opsiynau ar gyfer dyfodol gofal cymunedol y GIG gan gynnwys gofal brys a diagnosteg, a gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol i oedolion.
Rydym yn cynnal digwyddiadau ledled y sir o fis Hydref 2026 i fis Ionawr 2027. Bydd ein digwyddiadau yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â staff y bwrdd iechyd, dysgu mwy am yr opsiynau, gofyn cwestiynau a chwblhau ein holiadur.
Rhwng 5 Hydref 2026 a 10 Ionawr 2027, rydym yn annog pawb i gwblhau ein holiadur ymgynghori. Gallwch hefyd fynychu un o'n digwyddiadau galw heibio neu ddigwyddiadau ar-lein i ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a thrafod y newidiadau cyn rhannu eich barn gan ddefnyddio'r holiadur ar-lein neu printiedig.