Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Menywod

Rydym yn deall y gall aros am driniaeth fod yn gyfnod heriol - yn emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Os ydych chi'n aros am ofal sy'n gysylltiedig ag iechyd menywod, boed hynny ar gyfer triniaeth gynaecolegol, llawdriniaeth neu ymchwiliadau, mae'r dudalen hon yma i'ch cefnogi.

Tra byddwch chi'n aros, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu rheoli symptomau, cynnal eich lles, a theimlo mwy mewn rheolaeth. 

Adnoddau defnyddiol

  • Mae Endometriosis Cymru yn wefan sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae'r dudalen we yn darparu cyfoeth o wybodaeth i gleifion ledled Cymru, yn ogystal ag offer ac adnoddau i helpu rheoli symptomau, y cyflwr a'i effaith. Mae'r wefan ar gael yn ddwyieithog ac mewn fformat hygyrch / hawdd ei ddarllen. https://endometriosis.cymru/cy/

Ydych chi'n cael trafferth cyfleu symptomau gynaecolegol a’r pelfis? Nod Teclyn Adrodd Symptomau Endometriosis Cymru yw gwneud y broses yn symlach Teclyn Adrodd Symptomau Endometriosis Cymru - Endometriosis Cymru


 

    • Wedi'i fewnosod ar y wefan (gyda gwaith ar y gweill nawr i wella gweithrediad a defnydd) mae Estr, ap ar y we i gefnogi a galluogi sgyrsiau gwell mewn apwyntiadau gofal iechyd am symptomau a allai nodi endometriosis: https://endometriosis.cymru/srt-2/
    • Mae FTWW yn elusen ledled Cymru sy'n gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a brofir gan fenywod a phobl a neilltuwyd yn fenywod ar enedigaeth. Rydym yn darparu cefnogaeth, adnoddau ac eiriolaeth i'r rhai sy'n anabl a/neu'n byw gydag amrywiaeth o broblemau iechyd hirdymor ledled Cymru. Mae gennym ffocws penodol ar gyflyrau iechyd gynaecolegol / mislif: https://ftww.org.uk/
  • Cynigir sgrinio serfigol i fenywod a phobl â serfics rhwng 25 a 64 oed i wirio iechyd celloedd yng ngheg y groth. Caiff ei gynnig bob 3 blynedd i'r rhai rhwng 25 a 49 oed, a phob 5 mlynedd rhwng 50 a 64 oed.

 

Gall sgrinio serfigol atal canser serfigol rhag datblygu neu ei ganfod yn gynnar. Bydd y prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) yn chwilio am fathau risg uchel o'r Papilomafirws Dynol (HPV) a all achosi newidiadau celloedd ar serfics. Gall canfod newidiadau celloedd atal canser ceg y groth rhag datblygu.

Gwybodaeth bellach am Iechyd Menywod Iechyd Menywod - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Rhannu:
Cyswllt: