Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer Triniaeth Canser

Rhagsefydlu yw’r cyfnod cyn i’ch triniaeth canser ddechrau. Mae'n gyfle i chi ganolbwyntio ar eich iechyd a'ch lles ac yn gyfle i ddod yn gryfach ac yn fwy ffit wrth i chi baratoi ar gyfer eich triniaeth. 

Mae rhagadsefydlu’n cwmpasu pum prif ran o’ch iechyd: 

  • Deiet a Maeth
  • Gweithgarwch corfforol
  • Lles emosiynol
  • Cynnal eich lefelau egni
  • Dewisiadau ffordd o fyw gan gynnwys ysmygu ac alcohol
  •  

 

Sut mae Rhagsefydlu’n helpu? 

Efallai bod canser eisoes wedi effeithio ar eich chwant bwyd neu'ch gweithgareddau bob dydd. 

Gall triniaeth canser hefyd fod yn her i chi yn gorfforol, yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu rheoli'r newidiadau y gallech chi fod yn eu profi neu'r ffordd rydych chi'n teimlo. 

Gall gwella eich gweithgarwch corfforol, eich deiet a'ch lles meddyliol eich helpu chi ymdopi â'r hyn sydd o'ch blaen. Bydd hefyd yn eich galluogi i gymryd rheolaeth a pharhau i wneud y gweithgareddau sy'n bwysig i chi. 

Gall rhagsefydlu helpu: 

  • Lleihau cymhlethdodau a sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser a helpu cyflymu adferiad 

  • Galluogi chi i wneud y pethau sy'n bwysig i chi 

  • Gweithio tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw 

  • Eich helpu chi deimlo'n fwy gwydn a hyderus 

  • Gwella eich hwyliau a helpu rheoli gorbryder a straen 

  • Gwella maeth a gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o ‘danwydd’ ar gyfer y driniaeth sydd i ddod 

Cofiwch: Po well y byddwch chi'n teimlo cyn i unrhyw driniaeth ddechrau, yr haws fydd y profiad, a bydd eich adferiad ar ôl y driniaeth yn gyflymach. 

Mwy o wybodaeth:

 

Crëwyd cynnwys y dudalen we gan Arweinwyr Canser Proffesiynol Cynghreiriol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae wedi'i addasu ar gyfer gwefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

Rhannu:
Cyswllt: